ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG

RHAN 2PENODI

I2I16Tâl cydnabyddiaeth etc

1

Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth i aelodau'r Tribiwnlys.

2

Caiff Gweinidogion Cymru dalu lwfansau (gan gynnwys lwfansau teithio a lwfansau cynhaliaeth, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt) ac arian rhodd i aelodau'r Tribiwnlys.

3

Caiff Gweinidogion Cymru dalu—

a

pensiynau i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy, a

b

symiau ar gyfer darparu pensiynau, neu tuag at ddarparu pensiynau, i bersonau a fu'n aelodau o'r Tribiwnlys, neu mewn cysylltiad â hwy.