ATODLEN 11TRIBIWNLYS Y GYMRAEG
RHAN 3TERFYNU PENODIAD
I1I310Ymddiswyddo
1
Caiff y Llywydd ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.
2
Caiff aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu aelod lleyg o'r Tribiwnlys ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.
I4I511Anghymhwyso rhag bod yn aelod
Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys F1—
a
ar gyrraedd 75 oed, neu
b
os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd.
I6I212Diswyddo
1
Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Tribiwnlys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
a
nad yw'r person hwnnw'n ffit i barhau fel aelod o'r Tribiwnlys, neu
b
nad yw'r person hwnnw'n gallu neu'n fodlon arfer ei ddyletswyddau fel aelod o'r Tribiwnlys.
2
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn diswyddo unrhyw aelod arall o'r Tribiwnlys.