Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

RHAN 3LL+CTERFYNU PENODIAD

YmddiswyddoLL+C

10(1)Caiff y Llywydd ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 3 mis cyn ymddiswyddo.

(2)Caiff aelod wedi ymgymhwyso yn y gyfraith neu aelod lleyg o'r Tribiwnlys ymddiswyddo o'r Tribiwnlys os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 11 para. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 11 para. 10 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

Anghymhwyso rhag bod yn aelodLL+C

11Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Tribiwnlys [F1

(a)ar gyrraedd 75 oed, neu

(b)] os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Tribiwnlys ar sail cyflogaeth neu anaddasrwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 11 para. 11 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I4Atod. 11 para. 11 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)

DiswyddoLL+C

12(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Tribiwnlys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)nad yw'r person hwnnw'n ffit i barhau fel aelod o'r Tribiwnlys, neu

(b)nad yw'r person hwnnw'n gallu neu'n fodlon arfer ei ddyletswyddau fel aelod o'r Tribiwnlys.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Llywydd cyn diswyddo unrhyw aelod arall o'r Tribiwnlys.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 11 para. 12 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I6Atod. 11 para. 12 mewn grym ar 7.1.2014 gan O.S. 2013/3140, ergl. 2(k)