ATODLEN 12DIDDYMU BWRDD YR IAITH GYMRAEG: DARPARIAETH ARALL

I2I11Staff y Bwrdd

1

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud darpariaeth ar gyfer trosglwyddo staff y Bwrdd—

a

i'r Comisiynydd, neu

b

i Lywodraeth Cynulliad Cymru.

2

O ran contract cyflogaeth person a drosglwyddir yn rhinwedd y paragraff hwn—

a

nid yw'n cael ei derfynu gan y trosglwyddo, a

b

mae'n cael effaith o'r dyddiad trosglwyddo fel pe byddai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng y person a drosglwyddir a'r trosglwyddai.

3

Heb ragfarnu is-baragraff (2)—

a

os trosglwyddir person i'w gyflogi gan y Comisiynydd—

i

trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i'r Comisiynydd ar y dyddiad trosglwyddo, a

ii

mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan y Comisiynydd neu mewn perthynas ag ef,

b

os trosglwyddir person i'w gyflogi gan Lywodraeth Cynulliad Cymru—

i

trosglwyddir holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau'r Bwrdd o dan gontract cyflogaeth y person ac mewn cysylltiad â'i gontract i Weinidogion Cymru ar y dyddiad trosglwyddo, a

ii

mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad hwnnw gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â'r person neu â'r contract i'w drin o'r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe byddai wedi ei wneud gan Weinidogion Cymru neu mewn perthynas â hwy.

4

Os trosglwyddir person yn rhinwedd y paragraff hwn, mae cyfnod cyflogaeth y person hwnnw gyda'r Bwrdd yn union cyn y dyddiad trosglwyddo—

a

yn cyfrif fel cyfnod o gyflogaeth fel aelod o staff y trosglwyddai, a

b

i'w drin fel cyflogaeth ddi-dor fel aelod o staff y trosglwyddai at ddibenion adran 218(3) o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.

5

Ni throsglwyddir contract cyflogaeth (neu'r hawliau, pwerau, dyletswyddau a'r rhwymedigaethau oddi tano neu mewn cysylltiad ag ef) o dan y paragraff hwn os yw'r cyflogai'n gwrthwynebu trosglwyddo ac yn hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu.

6

Os yw'r cyflogai'n hysbysu'r Bwrdd neu'r trosglwyddai ei fod yn gwrthwynebu o dan is-baragraff (5)—

a

terfynir y contract cyflogaeth yn union cyn y dyddiad pryd y byddai'r trosglwyddo'n digwydd, ond

b

nid yw'r cyflogai'n cael ei drin, at unrhyw bwrpas, fel pe bai wedi ei ddiswyddo gan y Bwrdd.

7

Nid oes dim yn y paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan berson a drosglwyddir i derfynu ei gontract cyflogaeth os gwneir newid sylweddol (ac eithrio newid cyflogwr) sy'n niweidiol i'r person o ran ei amodau gwaith.

8

Caniateir gwneud darpariaeth o dan is-baragraff (1) mewn cysylltiad â phob person a gyflogir gan y Bwrdd, unrhyw ddosbarth o berson neu berson o unrhyw ddisgrifiad, neu unrhyw berson unigol.

9

Yn y paragraff hwn mae “trosglwyddai” yn cyfeirio at y cyflogwr y trosglwyddir neu y trosglwyddid y person o dan y paragraff hwn i'w gyflogi ganddo.