ATODLEN 12LL+CDIDDYMU BWRDD YR IAITH GYMRAEG: DARPARIAETH ARALL

Parhad achosion cyfreithiol, dilysrwydd gweithredoedd etcLL+C

5(1)Caiff unrhyw beth (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sy'n ymwneud ag—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sydd yn y broses o gael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef yn union cyn adeg y trosglwyddo, ei barhau gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

(2)Mae unrhyw beth a wnaed gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef at y dibenion canlynol, neu mewn cysylltiad â'r canlynol—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n effeithiol yn union cyn adeg y trosglwyddo, yn effeithiol ar ôl y trosglwyddo fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas ag ef.

(3)Mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud ag—

(a)swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu

(b)eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd,

ac sy'n cael eu gwneud neu eu cychwyn cyn adeg y trosglwyddo, rhodder y trosglwyddai yn lle'r Bwrdd.

(4)Nid yw'r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â hawliau a rhwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth aelod o staff y Bwrdd.

(5)Yn y paragraff hwn—

  • ystyr “adeg y trosglwyddo” (“transfer time”), mewn perthynas â swyddogaeth a drosglwyddwyd, neu eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd, yw adeg trosglwyddo'r swyddogaeth, neu'r eiddo, neu'r hawliau neu'r rhwymedigaethau;

  • ystyr “eiddo, hawliau neu rwymedigaethau a drosglwyddwyd” (“transferred property, rights or liabilities”) yw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau'r Bwrdd a drosglwyddwyd i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan Mesur hwn;

  • ystyr “swyddogaeth a drosglwyddwyd” (“transferred function”) yw un o swyddogaethau'r Bwrdd a drosglwyddwyd i'r Comisiynydd neu i Weinidogion Cymru o dan Mesur hwn.