ATODLEN 2YMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD
I2I13Cylch gorchwyl
1
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.
2
Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu'r person hwnnw neu'r categori o berson.
3
Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—
a
hysbysu pob person perthnasol o'r cylch gorchwyl arfaethedig,
b
rhoi cyfle i bob person perthnasol gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl arfaethedig, ac
c
ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.
4
Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—
a
cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sydd yn nhyb y Comisiynydd yn debygol o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy, neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a
b
hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—
i
pob person perthnasol, a
ii
Gweinidogion Cymru.
5
Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—
a
person a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, a
b
o ran categori o bersonau a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, pob person y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn dod o fewn y categori hwnnw.