xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CYMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

Cylch gorchwylLL+C

3(1)Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r cylch gorchwyl yn ymwneud â pherson penodol neu gategori o berson.

(2)Rhaid i'r cylch gorchwyl bennu'r person hwnnw neu'r categori o berson.

(3)Cyn setlo'r cylch gorchwyl, rhaid i'r Comisiynydd—

(a)hysbysu pob person perthnasol o'r cylch gorchwyl arfaethedig,

(b)rhoi cyfle i bob person perthnasol gyflwyno sylwadau am y cylch gorchwyl arfaethedig, ac

(c)ystyried unrhyw sylwadau a gyflwynir.

(4)Ar ôl setlo'r cylch gorchwyl (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (3)), rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyhoeddi cylch gorchwyl yr ymholiad mewn modd sydd yn nhyb y Comisiynydd yn debygol o ddwyn yr ymholiad i sylw personau y mae a wnelo'r ymholiad â hwy, neu sy'n debygol o fod yn bersonau a chanddynt fuddiant ynddo, a

(b)hysbysu'r canlynol am y cylch gorchwyl—

(i)pob person perthnasol, a

(ii)Gweinidogion Cymru.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “person perthnasol” yw—

(a)person a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, a

(b)o ran categori o bersonau a bennir yng nghylch gorchwyl ymholiad, pob person y mae'r Comisiynydd o'r farn ei fod yn dod o fewn y categori hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(e)