ATODLEN 2LL+CYMHOLIADAU GAN Y COMISIYNYDD

Adroddiadau ar ymholiadauLL+C

8(1)Rhaid i'r Comisiynydd lunio adroddiad o'i ganfyddiadau ar unrhyw ymholiad.

(2)Ni chaniateir i'r adroddiad—

(a)ei gwneud yn hysbys beth yw'r methiant i gydymffurfio â gofyniad perthnasol (o fewn ystyr Rhan 5) gan berson y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, neu

(b)cyfeirio fel arall at weithgareddau person y mae'n hysbys pwy ydyw, neu y gall fod yn hysbys pwy ydyw, yn rhinwedd yr adroddiad, oni bai bod y Comisiynydd o'r farn—

(i)na fyddai'r cyfeiriad yn niweidio'r person, neu

(ii)bod y cyfeiriad yn angenrheidiol er mwyn i'r adroddiad adlewyrchu canlyniadau'r ymholiad yn ddigonol (gan ystyried cylch gorchwyl yr ymholiad).

(3)Rhaid i'r Comisiynydd anfon drafft o'r adroddiad at Weinidogion Cymru.

(4)Os yw'r cylch gorchwyl yn pennu person penodol neu gategori o berson, rhaid i'r Comisiynydd hefyd anfon drafft o'r adroddiad at bob person perthnasol.

(5)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)rhoi cyfle i Weinidogion Cymru, ac i unrhyw berson arall yr anfonir drafft o adroddiad ato, i wneud sylwadau am yr adroddiad drafft, a

(b)ystyried unrhyw sylwadau a wneir.

(6)Ar ôl setlo'r adroddiad (ac yntau wedi cydymffurfio ag is-baragraff (5)), rhaid i'r Comisiynydd ei gyhoeddi.

(7)Nid yw'r paragraff hwn yn effeithio ar [F1gymhwyso'r ddeddfwriaeth diogelu data] i'r Comisiynydd.

(8)Yn y paragraff hwn—

  • [F2mae i “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “the data protection legislation” yn Neddf Diogelu Data 2018 (gweler adran 3 o'r Ddeddf honno);]

  • mae i “person perthnasol” yr un ystyr ag a roddir ym mharagraff 3.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I3Atod. 2 para. 8(2)(a) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(f)