ATODLEN 4AELODAU'R PANEL CYNGHORI

RHAN 2TERFYNU PENODIAD

I2I56Ymddiswyddo

Caiff aelod o'r Panel Cynghori ymddiswyddo os yw'n rhoi hysbysiad ysgrifenedig o'i fwriad i wneud hynny i Weinidogion Cymru heb fod yn llai na 2 fis cyn ymddiswyddo.

I1I47Anghymhwyso rhag bod yn aelod

Mae person yn peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'r person yn cael ei anghymhwyso rhag bod yn aelod o'r Panel Cynghori ar sail cyflogaeth.

I7I88Diswyddo

1

Caiff Gweinidogion Cymru ddiswyddo aelod o'r Panel Cynghori os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

a

nad yw'r person yn ffit i barhau yn aelod o'r Panel Cynghori, neu

b

nad yw'r person yn gallu neu'n fodlon gweithredu fel aelod o'r Panel Cynghori.

2

Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Comisiynydd cyn diswyddo aelod o'r Panel Cynghori.

I3I69Taliadau pan fo rhywun yn peidio â dal swydd

Caiff Gweinidogion Cymru dalu person sy'n peidio â bod yn aelod o'r Panel Cynghori os yw'n ymddangos i Weinidogion Cymru bod amgylchiadau arbennig yn ei gwneud hi'n iawn i'r person gael taliad yn iawndal.