xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(cyflwynwyd gan adran 33)

ATODLEN 8LL+CCYRFF ERAILL: SAFONAU

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 8 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Colofn 1Colofn 2
Person/CategoriGwasanaeth(au) penodedig
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr nwy trwyddedig.Cyflenwi nwy i'r cyhoedd o dan y drwydded nwy berthnasol.
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr dŵr dros Gymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr dŵr ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
Personau neilltuedig sydd, yn rhinwedd penodiad o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991, neu yn rhinwedd amrywio'r penodiad hwnnw o dan adran 7 o'r Ddeddf honno, yn ymgymerwyr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.Gwasanaethau a ddarperir i'r cyhoedd wrth arfer swyddogaethau ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer Cymru gyfan neu unrhyw ran ohoni.
Personau neilltuedig sy'n gyflenwyr trydan trwyddedig.Cyflenwi trydan i'r cyhoedd o dan drwydded drydan berthnasol.
Personau neilltuedig sy'n darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd.Darparu swyddfeydd post i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig, ac eithrio cyrff di-elw, sy'n darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd.Darparu gwasanaethau post i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd.Darparu gwasanaethau telathrebu i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd.Darparu gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr.Darparu i'r cyhoedd wasanaethau rheilffyrdd i deithwyr.
Personau neilltuedig sy'n darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd.Darparu addysg, hyfforddiant (lle y mae'r darparwr yn derbyn arian cyhoeddus i'w ddarparu), neu gyfarwyddyd gyrfaoedd i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu i'r cyhoedd wasanaethau sy'n annog, yn galluogi neu'n cynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.Darparu i'r cyhoedd wasanaethau i annog, i alluogi neu i gynorthwyo cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant neu gyfarwyddyd gyrfaoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd.Darparu gwasanaethau datblygu neu ddyfarnu cymwysterau addysgol neu alwedigaethol i'r cyhoedd.
Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd (“y gwasanaethau cysylltiedig”) sy'n gysylltiedig â gwasanaeth sy'n dod o fewn colofn (2) mewn unrhyw un neu ragor o'r cofnodion blaenorol yn y tabl hwn (y “gwasanaeth sylfaenol”), p'un ai hwy yw'r personau sy'n darparu'r gwasanaeth sylfaenol ai peidio.Darparu'r gwasanaethau cysylltiedig i'r cyhoedd.

Personau neilltuedig sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan gytundeb, neu'n unol â threfniadau, a wnaed gyda—

(a)

Gweinidogion Cymru,

(b)

un o Weinidogion y Goron,

(c)

un o adrannau'r llywodraeth,

(d)

person sy'n arfer ar ran y Goron swyddogaethau a roddwyd gan Ddeddf neu Fesur neu o dan Ddeddf neu Fesur, neu

(e)

cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru.

Darparu gwasanaethau i'r cyhoedd o dan y cytundeb, neu'n unol â'r trefniadau hynny.

DehongliLL+C

1(1)Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon ac yn Atodlen 7 (ac eithrio “gwasanaeth cysylltiedig” a “gwasanaeth sylfaenol”) yr un ystyron yn yr Atodlen hon ag yn Atodlen 7.

(2)Ond mae hynny'n ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr Atodlen hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 8 para. 1 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I3Atod. 8 para. 1 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

2Mae cyfeiriadau at ddarparu gwasanaeth i'r cyhoedd yn cynnwys y canlynol (ond heb fod wedi eu cyfyngu i hynny)—

(a)darparu'r gwasanaeth i'r cyhoedd yn gyffredinol neu i aelodau penodol o'r cyhoedd, a

(b)darparu'r gwasanaeth at unrhyw ddiben (boed at ddiben domestig, busnes neu ddiben arall).

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 8 para. 2 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I5Atod. 8 para. 2 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

NwyLL+C

3Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 8 para. 3 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I7Atod. 8 para. 3 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

TrydanLL+C

4Yn yr Atodlen hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 8 para. 4 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I9Atod. 8 para. 4 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Gwasanaethau postLL+C

5Yn yr Atodlen hon ystyr “corff di-elw” yw person neu gorff arall—

(a)nad yw wedi ei gyfansoddi at ddibenion gwneud elw, neu

(b)y mae'n ofynnol iddo (ar ôl iddo dalu alldaliadau) gymhwyso'r cyfan o'i incwm, ac unrhyw gyfalaf y mae'n ei wario, at ddibenion elusennol neu gyhoeddus.

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 8 para. 5 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I11Atod. 8 para. 5 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

RheilffyrddLL+C

6Yn yr Atodlen hon mae'r ymadrodd “gwasanaethau rheilffyrdd i deithwyr” yn cynnwys gwasanaethau i deithwyr a ddarperir ar reilffyrdd trên bach neu reilffyrdd dreftadaeth (ond nid yw wedi ei gyfyngu iddynt).

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 8 para. 6 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I13Atod. 8 para. 6 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)

Gwasanaethau cysylltiedigLL+C

7Yn yr Atodlen hon nid yw'r cyfeiriadau at “wasanaethau cysylltiedig” yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn siopau, onid yw'r gwasanaethau hynny—

(a)yn wasanaethau cownteri swyddfa'r post, neu

(b)yn wasanaethau gwerthu tocynnau neu ddarparu amserlenni ar gyfer gwasanaethau bysiau neu wasanaethau rheilffyrdd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 8 para. 7 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I15Atod. 8 para. 7 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(j)