(1)Mae'r adran hon yn gymwys—
(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynorthwyo unigolyn o dan adran 9 mewn perthynas ag achos, a
(b)os bydd yr unigolyn hwnnw'n ennill yr hawl i gael rhywfaint neu'r cyfan o'i gostau yn yr achos (boed yn rhinwedd dyfarniad neu yn rhinwedd cytundeb).
(2)O ran treuliau'r Comisiynydd wrth ddarparu'r cymorth—
(a)cânt eu codi ar symiau a delir i'r unigolyn ar ffurf costau, a
(b)gellir eu gorfodi fel dyled sy'n ddyladwy i'r Comisiynydd.
(3)Mae gofyniad i dalu arian i'r Comisiynydd o dan is-adran (2) yn dod islaw gofyniad a osodir yn rhinwedd adran 11(4)(f) o Ddeddf Mynediad at Gyfiawnder 1999 (adennill costau mewn achosion a gyllidir).
(4)At ddibenion is-adran (2), mae treuliau'r Comisiynydd i'w cyfrifo'n unol â darpariaeth a wneir (os o gwbl) gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw drwy reoliadau.
(5)Caiff rheoliadau a wneir o dan is-adran (4) ddarparu, ymhlith pethau eraill, ar gyfer dyrannu gwariant a dynnir gan y Comisiynydd—
(a)yn rhannol at un diben ac yn rhannol at ddiben arall, neu
(b)at ddibenion cyffredinol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 10 mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(f)