xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddiadau i'r Comisiynydd.
(2)Ond ni chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo'r Comisiynydd mewn perthynas â'r materion canlynol—
(a)rhoi hysbysiad cydymffurfio i berson o dan Bennod 6 o Ran 4 (gan gynnwys cynnwys hysbysiad cydymffurfio sydd i'w roi i berson);
(b)Rhan 5 (gorfodi safonau);
(c)Rhan 6 (rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg).
(3)Rhaid i'r Comisiynydd gydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 16(1)(2)(c)(3) mewn grym ar 1.4.2012 gan O.S. 2012/969, ergl. 2(g)
I3A. 16(2)(a)(b) mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(a)