RHAN 3PANEL CYNGHORI COMISIYNYDD Y GYMRAEG
I223Y Panel Cynghori
I3I51
Rhaid i Weinidogion Cymru benodi personau i fod yn aelodau o banel o gynghorwyr i'r Comisiynydd.
I12
Mae'r panel i'w alw'n Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg (y cyfeirir ato yn y Mesur hwn fel y “Panel Cynghori”).
I13
I'r graddau y bo hynny'n ymarferol, rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod o leiaf 3 ond nid mwy na 5 o aelodau ar y Panel Cynghori ar unrhyw adeg.
I4I54
Mae Atodlen 4 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch aelodau'r Panel Cynghori.