56Ceisiadau i'r ComisiynyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i gais o dan adran 54 neu 55 yn gofyn i'r Comisiynydd ddyfarnu a yw'r gofyniad am i P gydymffurfio â safon neu gydymffurfio â hi mewn modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
(2)Rhaid i'r cais fod yn ysgrifenedig.
(3)Rhaid i'r cais gael ei wneud ar y ffurf sy'n ofynnol gan y Comisiynydd (os yw'n ei gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud ar ffurf benodol).
(4)Rhaid i'r cais nodi'r rhesymau pam y mae P o'r farn bod y gofyniad i gydymffurfio â'r safon, neu i gydymffurfio â'r safon yn y modd penodol, yn afresymol neu'n anghymesur.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 56 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)
I2A. 56 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(b)