RHAN 5GORFODI SAFONAU
PENNOD 1YMCHWILIO I FETHIANT I GYDYMFFURFIO Å SAFONAU ETC
Atal methiant D i gydymffurfio rhag parhau neu gael ei ailadrodd
I2I180Cynlluniau gweithredu
1
Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D baratoi cynllun gweithredu.
2
Rhaid i D roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad penderfynu.
3
Ar ôl i gynllun drafft cyntaf ddod i law oddi wrth berson rhaid i'r Comisiynydd—
a
ei gymeradwyo, neu
b
rhoi i'r person hysbysiad—
i
sy'n datgan nad yw'r drafft yn ddigonol,
ii
sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r person roi drafft diwygiedig i'r Comisiynydd erbyn amser penodedig, a
iii
sy'n nodi y caniateir iddo wneud argymhellion ynghylch cynnwys y drafft diwygiedig.
4
Mae is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â chynllun drafft diwygiedig fel y mae'n gymwys mewn perthynas â chynllun drafft cyntaf.
5
Daw cynllun gweithredu i rym—
a
ar ddiwedd cyfnod o chwe wythnos yn dechrau ar y dyddiad y rhoddir drafft cyntaf neu ddrafft diwygiedig i'r Comisiynydd, os daw'r cyfnod hwnnw i ben heb i'r Comisiynydd—
i
rhoi hysbysiad o dan is-adran (3)(b), neu
ii
gwneud cais am orchymyn o dan is-adran (6)(b), neu
b
ar yr adeg pryd y bydd llys yn gwrthod gwneud gorchymyn o dan is-adran (6)(b) mewn perthynas â drafft diwygiedig o'r cynllun.
6
Caiff y Comisiynydd wneud cais i lys sirol—
a
am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson roi cynllun drafft cyntaf i'r Comisiynydd erbyn amser a bennir yn y gorchymyn; neu
b
am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i berson sydd wedi rhoi cynllun drafft diwygiedig i'r Comisiynydd baratoi a rhoi cynllun drafft diwygiedig pellach i'r Comisiynydd—
i
erbyn amser a bennir yn y gorchymyn, a
ii
yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau ynghylch cynnwys y cynllun a bennir yn y gorchymyn.
7
Caniateir i gynllun gweithredu gael ei amrywio drwy gytundeb rhwng y Comisiynydd a'r person a'i paratôdd.
8
Mae paragraffau 5 i 12 o Atodlen 10 yn gymwys mewn perthynas â bod y Comisiynydd yn ystyried a yw cynllun gweithredu drafft yn ddigonol fel y mae'r paragraffau hynny'n gymwys mewn perthynas â chynnal ymchwiliad.