Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

82Ei gwneud yn ofynnol rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os bydd y Comisiynydd—

(a)yn dyfarnu bod D wedi methu â chydymffurfio â'r gofyniad perthnasol, a

(b)yn penderfynu gwneud y naill neu'r llall o'r canlynol neu'r naill a'r llall o'r canlynol—

(i)rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol;

(ii)ei gwneud yn ofynnol i D roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio â'r gofyniad perthnasol.

(2)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol ddatgan yr hyn y mae'r Comisiynydd—

(a)i'w wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i fethiant D;

(b)yn ei gwneud yn ofynnol i D ei wneud er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd i'r methiant.

(3)Rhaid i'r hysbysiad penderfynu perthnasol roi gwybod i D—

(a)beth fydd y canlyniadau os na fydd D yn cydymffurfio â gofyniad sydd wedi ei gynnwys yn yr hysbysiad yn rhinwedd yr adran hon; a

(b)am yr hawl i apelio o dan adran 95.

(4)Mae'r adran hon yn ddarostyngedig i adran 85.

(5)Yn yr adran hon ystyr “hysbysiad penderfynu perthnasol” yw'r hysbysiad penderfynu y mae adran 73 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiynydd ei roi i D.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 82 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 82 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)