Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

90Methiant i gydymffurfio â gofyniad i roi cyhoeddusrwydd i fethiant i gydymffurfioLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw'r Comisiynydd yn rhoi hysbysiad penderfynu i D sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gymryd camau i roi cyhoeddusrwydd i'r methiant i gydymffurfio.

(2)Caiff y Comisiynydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, wneud cais i lys sirol am orchymyn sy'n ei gwneud yn ofynnol i D gydymffurfio â'r gofyniad yn yr hysbysiad penderfynu.

(3)Yn yr adran hon ystyr “cyfnod perthnasol” yw'r cyfnod o 5 mlynedd sy'n dechrau ar y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad penderfynu.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 90 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 90 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)