Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

98Dyletswydd y Comisiynydd ar apêlLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)os yw'r Comisiynydd wedi cynnal ymchwiliad o dan adran 71 yn dilyn cwyn o dan adran 93, a

(b)os gwneir apêl o dan adran 95 neu 97, neu os gwneir unrhyw apêl bellach, mewn perthynas â'r ymchwiliad, ac

(c)os nad yw P yn barti yn yr achos hwnnw.

(2)Rhaid i'r Comisiynydd—

(a)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad, apêl o dan adran 95 roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad,

(b)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o apêl o dan adran 97, neu unrhyw apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi bod yr apêl wedi ei gwneud, ac

(c)cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael ei hysbysu o ganlyniad apêl o dan adran 97 neu o ganlyniad apêl bellach, roi i'r person a wnaeth y gŵyn hysbysiad yn nodi'r canlyniad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 98 ddim mewn grym ar Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 156(2)

I2A. 98 mewn grym ar 7.7.2015 gan O.S. 2015/1413, ergl. 3(c)