Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011

This section has no associated Explanatory Notes

2LL+CRhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd mesurau deddfwriaethol, gweinyddol, cymdeithasol ac addysgol i sicrhau bod yr erthygl bresennol yn cael ei gweithredu. I'r perwyl hwn, a chan roi sylw i ddarpariaethau perthnasol offerynnau rhyngwladol eraill, rhaid i Bartïon Gwladwriaethau, yn benodol:

(a)darparu ar gyfer oedran isaf neu oedrannau isaf i gael derbyniad i gyflogaeth;

(b)darparu ar gyfer rheoleiddio oriau ac amodau cyflogaeth yn briodol;

(c)darparu ar gyfer cosbau priodol neu sancsiynau eraill i sicrhau y caiff yr erthygl bresennol ei gorfodi'n effeithiol.