YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

I1RHAN 2PROTOCOLAU

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. Rhn. 2 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN YNGHYLCH TYNNU PLANT I MEWN I WRTHDARO ARFOG

Erthygl 6

1

Rhaid i bob Parti Gwladwriaeth gymryd pob mesur cyfreithiol, pob mesur gweinyddol a phob mesur arall sy'n angenrheidiol i sicrhau bod darpariaethau'r Protocol hwn yn cael eu gweithredu a'u gorfodi'n effeithiol o fewn ei awdurdodaeth.

2

3

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gymryd pob mesur dichonadwy i sicrhau y bydd personau o fewn eu hawdurdodaeth sydd wedi eu recriwtio neu wedi eu defnyddio mewn ymladdiadau yn groes i'r Protocol presennol yn cael eu dadfyddino neu eu gollwng o'u gwasanaeth mewn modd arall. Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau roi, pan fo'n angenrheidiol, bob cymorth priodol i'r personau hyn er mwyn iddynt ymadfer yn gorfforol ac yn seicolegol ac ailintegreiddio â'r gymdeithas.