YR ATODLENY CONFENSIWN, Y PROTOCOLAU, Y DATGANIADAU A'r NEILLTUADAU

I1RHAN 2PROTOCOLAU

Annotations:
Commencement Information
I1

Atod. Rhn. 2 mewn grym ar 16.5.2011, gweler a. 11

PROTOCOL DEWISOL I'R CONFENSIWN AR HAWLIAU'R PLENTYN YNGHYLCH TYNNU PLANT I MEWN I WRTHDARO ARFOG

Erthygl 7

1

Rhaid i Bartïon Gwladwriaethau gydweithredu i weithredu'r Protocol presennol, gan gynnwys cydweithredu ym maes atal unrhyw weithgaredd sy'n groes i'r Protocol ac adsefydlu ac ailintegreiddio â'r gymdeithas bersonau sy'n ddioddefwyr gweithredoedd sy'n groes i'r Protocol hwn, gan gynnwys drwy gydweithrediad technegol a chymorth ariannol. Ymgymerir â'r gwaith cynorthwyo a chydweithredu hwnnw gan ymgynghori â'r Partïon Gwladwriaethau o dan sylw a chyrff rhyngwladol perthnasol.