xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 10LL+CCYFFREDINOL

172Gorchmynion a rheoliadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn arferadwy drwy offeryn statudol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy'n cynnwys unrhyw un neu ragor o'r canlynol gael ei wneud onid oes drafft o'r gorchymyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a'i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 9(1)(i) [F1F2...F3... neu Ran 2] ;

(b)gorchymyn o dan adran F4...[F5158 ]F6...;

F7(c). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(d)gorchymyn o dan adran 177 sy'n cynnwys addasiadau i ddeddfiad (ac eithrio deddfiad a geir mewn is-ddeddfwriaeth).

F8(3). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

(4)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy'n cynnwys gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn, ac eithrio offeryn nad yw ond yn cynnwys gorchymyn o dan adran 178 (cychwyn), yn ddarostyngedig i'w ddiddymu'n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(5)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru o dan y Mesur hwn i gymhwyso deddfiad yn bŵer i'w gymhwyso gydag addasiadau neu hebddynt.

(6)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer (ond heb fod yn gyfyngedig iddo)—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, drosiannol, ddarfodol, ganlyniadol, arbed, gysylltiedig a darpariaeth arall y mae Gweinidogion Cymru o'r farn eu bod yn angenrheidiol neu'n briodol.

F9173Y weithdrefn sy'n gymwys i orchmynion penodol o dan adran 127LL+C

. . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .

174Canllawiau a chyfarwyddiadauLL+C

(1)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r canllawiau a roddwyd.

(2)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi cyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer i amrywio neu ddirymu'r cyfarwyddiadau a roddwyd.

(3)Mae unrhyw bŵer sydd gan Weinidogion Cymru i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau o dan y Mesur hwn yn cynnwys pŵer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol, dibenion gwahanol, neu ardaloedd daearyddol gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth yn gyffredinol neu mewn perthynas ag achosion penodol.

(4)Nid yw is-adrannau (1) i (3) yn cyfyngu ar y pwerau o dan y Mesur hwn i roi canllawiau neu gyfarwyddiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 174 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

175DehongliLL+C

Yn y Mesur hwn—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 175 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

176Diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C

(1)Yn adran 106 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (Cymru), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—

(5)The power of the Welsh Ministers to make an order under section 21A(13)(b) or section 21G is exercisable by statutory instrument.

(6)A statutory instrument which contains an order made by the Welsh Ministers under section 21A(13)(b) is subject to annulment in pursuance of a resolution of the National Assembly for Wales.

(7)A statutory instrument which contains an order under section 21G may not be made unless a draft of the instrument has been laid before, and approved by a resolution of, the National Assembly for Wales..

(2)Mae Atodlen 4 (diddymiadau a dirymiadau) yn cael effaith.

(3)Nid yw dirymu Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Lwfansau i Aelodau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/1086), gan is-adran (2) yn effeithio ar bŵer y Panel i ragnodi materion mewn perthynas â chynllun a wneir o dan Ran 2 o'r Rheoliadau hynny pan fo'r cynllun hwnnw'n weithredol yn ystod unrhyw ran o'r flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2011 (ac at y dibenion hyn, mae i “panel” a “blwyddyn ariannol” yr un ystyr ag sydd iddynt yn Rhan 8 o'r Mesur hwn).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 176(2) mewn grym ar 11.5.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(1)(c)

I5A. 176(2) mewn grym ar 11.7.2011 at ddibenion penodedig, gweler a. 178(2)(d)

I6A. 176(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(p)

I7A. 176(2) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(l)

177Y pŵer i wneud darpariaeth atodolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, wneud unrhyw ddarpariaeth atodol, gysylltiedig, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol ac arbed y maent o'r farn eu bod yn briodol mewn cysylltiad â'r Mesur hwn.

(2)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud o dan is-adran (1) yn cynnwys addasiadau i unrhyw ddeddfiad (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt).

(3)Mae'r addasiadau y caniateir eu gwneud yn rhinwedd is-adran (2) yn ychwanegol at y rhai a wnaed neu y caniateir eu gwneud o dan unrhyw ddarpariaeth arall yn y Mesur hwn.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 177 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

178CychwynLL+C

(1)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)adrannau 58, 77, 79, 80 a 159;

(b)y Rhan hon (ac eithrio adran 176);

(c)Rhan E o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhan E o Atodlen 4).

(2)Daw'r darpariaethau a ganlyn i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddau fis yn dechrau ar y diwrnod y cymeradwyir y Mesur hwn gan Ei Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor—

(a)Rhannau 3 a 4;

(b)adran 55 ac adran 76;

(c)Penodau 2 i 9 o Ran 7;

(d)Rhannau B ac C o Atodlen 4 (ac adran 176(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â Rhannau B ac C o Atodlen 4).

(3)Yn ddarostyngedig i is-adrannau (1) a (2), daw'r Mesur hwn i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 178 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)

179Enw byrLL+C

Enw'r Mesur hwn yw Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 179 mewn grym ar 11.5.2011, gweler a. 178(1)(b)