xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau fel eu bod—
(a)yn wahanol i'r trefniadau presennol ar unrhyw agwedd, ond
(b)yn dal i ddarparu ar gyfer yr un ffurf ar weithrediaeth.
(2)Mae'r pŵer a roddir gan is-adran (1) yn arferadwy yn unol â'r darpariaethau a ganlyn yn y Bennod hon.
(3)Am y diffiniad o “ffurf ar weithrediaeth”, gweler adran 53.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 48 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
(1)Rhaid i'r awdurdod lleol lunio cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth, a'u cymeradwyo drwy benderfyniad (os bwriedir defnyddio'r pwerau a roddir gan adran 48).
(2)Ond, os yw'r awdurdod lleol yn gweithredu gweithrediaeth maer a chabinet, ni chaiff yr awdurdod lleol gymeradwyo cynigion i amrywio ei drefniadau gweithrediaeth onid yw'r maer etholedig wedi rhoi cydsyniad ysgrifenedig i'r newid arfaethedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 49 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
Rhaid i gynigion awdurdod lleol gynnwys pob un o'r canlynol—
(a)amserlen mewn cysylltiad â rhoi'r cynigion ar waith, a
(b)manylion unrhyw drefniadau trosiannol sy'n angenrheidiol er mwyn rhoi'r cynigion ar waith.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 50 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
Rhaid i awdurdod lleol roi ei gynigion ar waith yn unol â'r amserlen sydd wedi ei chynnwys yn y cynigion.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 51 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)