PENNOD 3LL+CATODOL
52Y pwerau sy'n caniatáu amrywio pwerau gweithrediaethLL+C
Ni chaniateir i awdurdod lleol sy'n gweithredu trefniadau gweithrediaeth amrywio'r trefniadau hynny neu roi trefniadau yn lle'r trefniadau hynny ac eithrio fel a ddarperir yn—
(a)Pennod 1 neu 2 o'r Rhan hon, neu
(b)rheoliadau o dan adran 34, 35 neu 36 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 52 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
53Ffurfiau ar weithrediaethLL+C
At ddibenion y Rhan hon, mae pob un o'r canlynol yn ffurf ar weithrediaeth—
(a)gweithrediaeth arweinydd a chabinet (Cymru);
(b)gweithrediaeth maer a chabinet.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 53 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)
54Darpariaeth ganlyniadol etcLL+C
(1)Diwygir Deddf Llywodraeth Leol 2000 fel a ganlyn.
(2)Hepgorer adran 30 (gweithredu gwahanol drefniadau gweithrediaeth).
(3)O flaen adran 33A mewnosoder—
“33ZAWales: changing governance arrangements
For provision about changing the governance arrangements of local authorities in Wales, see Part 4 of the Local Government (Wales) Measure 2011.”.
(4)Yn adran 45 (darpariaethau mewn cysylltiad â refferenda), yn is-adran (9), ar ôl “this Part” mewnosoder “or under section 40 of the Local Government (Wales) Measure 2011”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 54 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(a)