(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn wneud darpariaeth yn gosod cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ei ardal.
(2)Yn is-adran (1), ystyr “cytundeb siarter enghreifftiol rhwng awdurdod lleol a chyngor cymuned” yw disgrifiad o'r ffordd y gellir arfer eu swyddogaethau at ddibenion cynnal a gwella cydweithrediad rhyngddynt.
(3)Mae'r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud drwy orchymyn o dan is-adran (1) yn cynnwys darpariaeth (ond heb fod yn gyfyngedig iddi)—
(a)sy'n nodi'r ffordd y mae swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, i'w harfer;
(b)sy'n nodi swyddogaethau penodedig, neu agweddau ar swyddogaethau o'r fath, y mae'r awdurdod lleol a'r cyngor cymuned i geisio cytundeb mewn cysylltiad â hwy o ran sut y maent i'w harfer;
(c)sy'n nodi swyddogaethau penodedig sydd i'w harfer drwy gyfeirio at egwyddorion penodedig.
(4)Yn yr adran hon ac yn adran 131, mae cyfeiriad at arfer swyddogaethau yn cynnwys cyfeiriad at wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer swyddogaethau, neu sy'n gydnaws neu'n gysylltiedig ag arfer y swyddogaethau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 130 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy gyfarwyddyd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol a chyngor cymuned ar gyfer cymuned neu gymunedau yn ardal yr awdurdod fabwysiadu cytundeb siarter enghreifftiol a osodir mewn gorchymyn o dan adran 130(1).
(2)Yn is-adran (1), ystyr “mabwysiadu” yw penderfynu, yn unol ag unrhyw weithdrefn a bennir yn y cyfarwyddyd, arfer swyddogaethau, neu geisio cytundeb ynghylch sut i arfer swyddogaethau, yn unol â'r canlynol—
(a)holl ddarpariaethau'r cytundeb siarter enghreifftiol, neu
(b)y darpariaethau hynny a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1)—
(a)ymwneud â'r holl gynghorau cymuned ar gyfer cymunedau yn ardal yr awdurdod lleol, neu ag unrhyw un neu ragor ohonynt, a
(b)os yw'r cyfarwyddyd yn ymwneud â mwy nag un cyngor cymuned, wneud darpariaeth wahanol mewn perthynas â chynghorau gwahanol.
(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I2A. 131 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)
Rhaid i awdurdod lleol a chyngor cymuned, wrth weithredu o dan gyfarwyddyd o dan adran 131(1), roi sylw i ganllawiau a roddwyd gan Weinidogion Cymru.
Gwybodaeth Cychwyn
I3A. 132 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gwneud gorchymyn o dan adran 130(1), ymgynghori—
(a)ag unrhyw gyrff sy'n gynrychioliadol o awdurdodau lleol a chynghorau cymuned ac y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, a
(b)ag unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru o'r farn ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 131(1), ymgynghori â'r awdurdod a'r cyngor y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hwy.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 133 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 178(2)(c)