xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 8LL+CF1...TALIADAU A PHENSIYNAU

Diwygiadau Testunol

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd ag addasiadau) (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 25(3)(4), 46(1)

C2Rhn. 8 cymhwyswyd (ynghyd gydag addasiadau) (21.1.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau.142(5), 143, 175(1)(f)(2)

[F2Taliadau gan awdurdodau perthnasolLL+C

153Cydymffurfio â gofynion y PanelLL+C

(1)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â'r gofynion a osodir arno gan adroddiad blynyddol.

(2)Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â materion perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—

(a)y materion sy'n faterion perthnasol mewn perthynas â'r awdurdod;

(b)ceisiadau i'r awdurdod am daliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol;

(c)taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â materion perthnasol.

(3)Caiff y Panel fonitro gwneud taliadau gan awdurdodau perthnasol mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol; ac wrth wneud hynny, caiff y Panel ei gwneud yn ofynnol i awdurdod perthnasol roi iddo unrhyw wybodaeth y mae'n ei phennu am—

(a)yr aelodau o'r awdurdod y mae'n ofynnol i'r awdurdod dalu pensiynau perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy;

(b)taliadau a wneir gan yr awdurdod mewn cysylltiad â phensiynau perthnasol.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol gydymffurfio â gofyniad a osodir arno o dan is-adran (2) neu (3).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 153 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

154Aelodau sy'n dymuno ymwrthod â'u hawl i gael taliadauLL+C

(1)Mae'r adran hon yn gymwys os yw aelod o awdurdod perthnasol, drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i'r swyddog priodol i'r awdurdod, yn dewis ymwrthod (naill ai'n llwyr neu i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad) â'r hawl i gael taliadau mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn yr hysbysiad.

(2)Nid yw'r gofyniad a osodir ar yr awdurdod gan adroddiad blynyddol i wneud taliadau mewn cysylltiad â'r materion perthnasol hynny a bennir yn yr hysbysiad yn gymwys yn achos yr aelod hwnnw (neu nid yw'n gymwys yn yr achos hwnnw i'r graddau a bennir yn yr hysbysiad); ac mae adran 153(1) i'w darllen yn unol â hynny.

(3)Mae i “swyddog priodol” yr ystyr a roddir i “proper officer” yn adran 270(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 154 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I3A. 154 mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(m)

I4A. 154 mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(h)

155Peidio â gwneud taliadauLL+C

(1)Ni chaniateir i awdurdod perthnasol wneud taliadau mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson sydd wedi ei atal neu wedi ei atal yn rhannol rhag bod yn aelod o'r awdurdod yn rhinwedd Rhan 3 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (ymddygiad aelodau llywodraeth leol etc.).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn unrhyw achosion eraill y maent o'r farn eu bod yn briodol, gyfarwyddo awdurdod perthnasol i beidio â gwneud taliadau (gan gynnwys mewn cysylltiad â phensiynau) mewn cysylltiad ag unrhyw faterion perthnasol a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Panel.

(4)Gellir gorfodi cyfarwyddyd o dan is-adran (2) drwy orchymyn mynnu ar gais Gweinidogion Cymru.

(5)Caiff awdurdod perthnasol ei gwneud yn ofynnol i ad-dalu taliadau a wnaed mewn cysylltiad â materion perthnasol neu bensiwn perthnasol i berson mewn cysylltiad â chyfnod pryd nad oedd gan y person hwnnw hawl i gael y taliad am unrhyw reswm, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) unrhyw un o'r rhesymau canynol—

(a)gwnaed y taliadau yn groes i'r gwaharddiad yn is-adran (1);

(b)gwnaed y taliadau yn groes i'r gyfarwyddyd o dan is-adran (2);

(c)yr oedd y person wedi peidio â bod yn aelod o'r awdurdod.]

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 155 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)

I6A. 155(1) mewn grym ar 30.4.2012 gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(1)(n)

I7A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 31.8.2011 at ddibenion penodedig gan O.S. 2011/2011, ergl. 2(n)

I8A. 155(2)(3)(4) mewn grym ar 30.4.2012 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2012/1187, ergl. 2(2)(i)

I9A. 155(5) mewn grym ar 28.2.2014 gan O.S. 2014/453, ergl. 2(b)