Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

[F1147Adroddiadau blynyddol dilynolLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol ar ôl yr adroddiad blynyddol cyntaf.

(2)Rhaid cyhoeddi adroddiad blynyddol heb fod yn hwyrach nag—

(a)[F228 Chwefror] yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn y mae'r adroddiad yn ymwneud â hi, neu

(b)unrhyw ddyddiad diweddarach y mae'r Panel a Gweinidogion Cymru yn cytuno arno.

(3)Rhaid i adroddiad blynyddol nodi—

(a)drwy gyfeirio at y swm sydd ag iddo effaith ar gyfer pob mater perthnasol, unrhyw gyfradd neu fynegrif fel y'i gosodir o dan adran 142(6), a

(b)y disgrifiadau o aelodau o awdurdodau perthnasol y bydd yn ofynnol i awdurdodau perthnasol dalu pensiwn perthnasol iddynt neu mewn cysylltiad â hwy.

(4)Caiff adroddiad blynyddol amrywio'r ddarpariaeth a wneir yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) [F3(gan gynnwys drwy bennu nifer o dan adran 142(4))] .

(5)Ar ôl cyhoeddi adroddiad blynyddol ond cyn cyhoeddi'r adroddiad blynyddol nesaf, caiff y Panel gyhoeddi un neu ragor o adroddiadau atodol.

(6)Caiff adroddiad atodol o dan yr adran hon—

(a)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol y mae'r adroddiad atodol yn ymwneud ag ef at ddibenion is-adran (3)(a) neu (b) (a chaiff wneud darpariaeth at y dibenion hynny i'r graddau nad yw'r adroddiad blynyddol yn ei gwneud);

(b)amrywio'r ddarpariaeth a wnaed yn yr adroddiad blynyddol cyntaf at ddibenion adran 146(3)(a), (b), (c), (d) neu (e) (neu'r ddarpariaeth honno fel y'i hamrywiwyd yn rhinwedd is-adran (4)).

(7)Wrth lunio adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel ystyried—

(a)yr adroddiad blynyddol blaenorol ac unrhyw adroddiadau atodol sy'n ymwneud ag ef;

(b)y sylwadau a gafodd y Panel am yr adroddiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (a).

(8)Cyn cyhoeddi adroddiad blynyddol neu adroddiad atodol o dan yr adran hon, rhaid i'r Panel—

(a)anfon drafft at

(i)Weinidogion Cymru,

(ii)yr awdurdodau perthnasol hynny y mae'r Panel wedi ei gwneud yn ofynnol iddynt neu wedi eu hawdurdodi i wneud taliadau i'w haeoldau mewn cysylltiad â materion perthnasol, ac

(iii)unrhyw bersonau eraill y mae'r Panel o'r farn ei bod yn briodol anfon drafft atynt,

a,

(b)ystyried y sylwadau y mae'r Panel yn eu cael ar y drafft.

[F4(9)Mae darpariaethau adroddiad blynyddol neu atodol o dan yr adran hon yn dod i rym ar y dyddiad a bennir at y diben hwnnw yn yr adroddiad.

(10)Pan fo is-adran (11) yn gymwys, caiff yr adroddiad bennu bod darpariaeth gymwys i gael ei thrin fel petai wedi dod i rym hyd at 3 mis yn gynharach na dyddiad cyhoeddi’r adroddiad.

(11)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo adroddiad atodol yn cynnwys darpariaeth gymwys.

(12)“Darpariaeth gymwys” yw darpariaeth sy’n gwneud amrywiad at ddibenion is-adran (3)(a), (b) neu (c) yn adran 146.]]

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 147 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)