xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae'r adran hon yn gymwys i aelod o awdurdod lleol sy'n bodloni amodau rhagnodedig—
(a)o ran perthynas â phlentyn newydd-anedig neu blentyn a ddisgwylir, a
(b)o ran perthynas â mam y plentyn.
(2)Mae gan yr aelod hawl i gyfnod o absenoldeb (“absenoldeb newydd-anedig”) at ddibenion—
(a)gofalu am y plentyn, neu
(b)cynorthwyo'r fam.
(3)Rhaid i reoliadau gynnwys darpariaeth ar gyfer penderfynu—
(a)i ba raddau y mae gan aelod hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn;
(b)pryd y caniateir cymryd absenoldeb newydd-anedig.
F1(4). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(5)Rhaid i reoliadau ei gwneud yn ofynnol i absenoldeb newydd-anedig gael ei gymryd cyn diwedd cyfnod rhagnodedig.
F2(6). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(7)Caiff rheoliadau ragnodi amgylchiadau pan gaiff aelod o awdurdod lleol, neu pan gaiff yr awdurdod lleol—
(a)terfynu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig, neu
(b)diddymu cyfnod o absenoldeb newydd-anedig.
(8)Caiff rheoliadau—
(a)(at ddibenion is-adran (2)) ragnodi pethau sydd i'w barnu neu beidio a'u barnu yn bethau sydd wedi eu gwneud at ddibenion gofalu am blentyn neu gynorthwyo mam y plentyn;
(b)caniatáu i aelod ddewis, yn ddarostyngedig i gyfyngiadau rhagnodedig, y dyddiad pryd y bydd cyfnod o absenoldeb newydd-anedig yn dechrau;
(c)gwneud darpariaeth sy'n eithrio hawl i absenoldeb newydd-anedig mewn cysylltiad â phlentyn pan fo mwy nag un plentyn yn cael ei eni o ganlyniad i'r un beichiogrwydd;
(d)gwneud darpariaeth ynghylch sut y ceir cymryd absenoldeb newydd-anedig.
F3(9). . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . . .
(10)Yn yr adran hon—
mae “plentyn newydd-anedig” (“newborn child”) yn cynnwys plentyn marw-anedig ar ôl 24 o wythnosau o feichiogrwydd;
F4...
Diwygiadau Testunol
F1A. 25(4) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(3)(a), 175(1)(d)
F2A. 25(6) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(3)(b), 175(1)(d)
F3A. 25(9) wedi ei hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(3)(c), 175(1)(d)
F4Geiriau yn a. 25(10) wedi eu hepgor (21.1.2021) yn rhinwedd Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 61(3)(d), 175(1)(d)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 178(3)