RHAN 6TROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 1PWYLLGORAU TROSOLWG A CHRAFFU

Cyfyngu ar reoli pwyllgorau gan bleidiau

I178Gwahardd pleidleisio o dan gyfarwyddyd chwip plaid a datgan cyfarwyddyd chwip plaid

1

Ni chaniateir i aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu bleidleisio ar gwestiwn mewn cyfarfod o'r pwyllgor os rhoddwyd cyfarwyddyd chwip plaid i'r aelod, cyn y cyfarfod, mewn perthynas â'r cwestiwn (“cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid”).

2

Rhaid diystyru pleidlais a roddir yn groes i is-adran (1).

3

Rhaid i reolau sefydlog ddarparu bod rhaid i bob aelod o'r pwyllgor, ym mhob un o gyfarfodydd pwyllgor trosolwg a chraffu i awdurdod lleol, ddatgan unrhyw gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid sydd wedi ei roi i'r aelod mewn perthynas â'r cyfarfod.

4

Rhaid i reolau sefydlog ei gwneud yn ofynnol i gofnodion pob cyfarfod pwyllgor trosolwg a chraffu gofnodi pob datganiad o'r fath yn y cyfarfod am gyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid.

5

Y person sy'n cadeirio cyfarfod o'r pwyllgor trosolwg a chraffu sydd i benderfynu a yw aelod o'r pwyllgor wedi cael cyfarwyddyd gwaharddedig chwip plaid mewn perthynas â'r cyfarfod.

6

Os bydd mynd yn groes i'r adran hon yn effeithio'n sylweddol ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu, mae'r penderfyniad i'w drin fel pe na fo wedi ei wneud.

7

Nid yw is-adran (6) yn effeithio ar unrhyw weithred neu anweithred gan unrhyw berson ac eithrio'r pwyllgor trosolwg a chraffu.

8

At ddibenion is-adran (6), o ran mynd yn groes i'r adran hon ac effaith ar benderfynu cwestiwn gan bwyllgor trosolwg a chraffu—

a

mae'n effeithio'n sylweddol os yw un aelod o'r pwyllgor neu ragor yn pleidleisio ar y cwestiwn yn groes i is-adran (1),

b

mae'n effeithio'n sylweddol os na ddiystyrir un neu ragor o'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (a) yn unol ag is-adran (2), ac

c

mae'n effeithio'n sylweddol pe byddai'r penderfyniad i'r cwestiwn wedi bod yn wahanol pe byddai'r bleidlais neu'r pleidleisiau a grybwyllir ym mharagraff (b) wedi eu diystyru'n unol ag is-adran (2).

9

Mae'r adran hon yn gymwys mewn perthynas ag is-bwyllgor i bwyllgor trosolwg a chraffu fel y mae'n gymwys i'r pwyllgor trosolwg a chraffu (ac yn unol â hyn mae cyfeiriadau yn yr adran hon at bwyllgor trosolwg a chraffu i'w darllen fel pe baent yn cynnwys cyfeiriadau at is-bwyllgor o'r fath).

10

Yn yr adran hon—

  • ystyr “cyfarwyddyd chwip plaid” (“party whip”) yw cyfarwyddyd (sut bynnag y'i mynegir)—

    1. a

      a roddir ar ran grŵp gwleidyddol ar awdurdod lleol;

    2. b

      a roddir i berson (P)—

      1. i

        sy'n aelod o'r grŵp gwleidyddol, a

      2. ii

        sy'n aelod o bwyllgor trosolwg a chraffu i'r awdurdod lleol;

    3. c

      ynghylch sut y dylai P bleidleisio ar gwestiwn y mae'n dod i ran y pwyllgor i'w benderfynu; a

    4. d

      os na chydymffurfir ag ef gan P, a fyddai'n debygol o wneud P yn agored i gamau disgyblu gan y grŵp gwleidyddol sy'n rhoi'r cyfarwyddyd;

  • ystyr “grŵp gwleidyddol” (“political group”) yw grŵp o aelodau o awdurdod lleol sy'n grŵp gwleidyddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;

  • ystyr “rheolau sefydlog” (“standing orders”), mewn perthynas â phwyllgor trosolwg a chraffu, yw rheolau sefydlog sy'n rheoleiddio trafodion a busnes y pwyllgor hwnnw.