RHAN 6LL+CTROSOLWG A CHRAFFU

PENNOD 2LL+CPWYLLGORAU [F1LLYWODRAETHU AC] ARCHWILIO

81Awdurdodau lleol i benodi pwyllgorau [F2llywodraethu ac] archwilioLL+C

(1)Rhaid i awdurdod lleol benodi pwyllgor [F3(“pwyllgor llywodraethu ac archwilio”)]

(a)i arolygu materion ariannol yr awdurdod a chraffu arnynt,

(b)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â materion ariannol yr awdurdod.

(c)i adolygu ac asesu trefniadau'r awdurdod ar gyfer rheoli risgiau, rheolaeth fewnol [F4, asesu perfformiad] a llywodraethu corfforaethol,

(d)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion i'r awdurdod ynghylch digonolrwydd ac effeithiolrwydd y trefniadau hynny,

[F5(da)i adolygu ac asesu gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,

(db)i lunio adroddiadau a gwneud argymhellion mewn perthynas â gallu’r awdurdod i ymdrin â chwynion mewn modd effeithiol,]

(e)i arolygu trefniadau archwilio mewnol ac allanol yr awdurdod, ac

(f)i adolygu'r datganiadau ariannol a lunnir gan yr awdurdod.

[F6(1A)Gweler Pennod 1 o Ran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (perfformiad prif gynghorau a’u llywodraethu) am swyddogaethau pellach pwyllgorau llywodraethu ac archwilio.]

(2)Caiff awdurdod lleol roi i'w bwyllgor [F7llywodraethu ac] archwilio unrhyw swyddogaethau eraill y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn addas i'w harfer gan y cyfryw bwyllgor.

(3)Y pwyllgor [F8llywodraethu ac] archwilio sydd i benderfynu sut mae i arfer ei swyddogaethau.