Ar ôl adran 14B o Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 rhodder—
(1)Caiff rheoliadau—
(a)ei gwneud yn ofynnol i drefniadau rhagnodedig gael eu gwneud i recordio delweddau gweledol neu sain o ddigwyddiadau sy'n digwydd ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir fel arall gan gorff perthnasol;
(b)darparu ynghylch defnyddio, storio a chadw delweddau gweledol neu sain a recordir ar gludiant i ddysgwyr a ddarperir neu a sicrheir gan gorff perthnasol;
(c)darparu am dramgwyddau troseddol a chosbau am dorri gofynion a osodir o dan yr adran hon.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) (ymhlith pethau eraill) roi pwerau neu ddyletswyddau ar unrhyw un o'r canlynol—
(a)corff perthnasol;
(b)person sy'n darparu cludiant i ddysgwyr a sicrheir gan gorff perthnasol.
(3)Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) awdurdodi na'i gwneud yn ofynnol bod recordio yn digwydd mewn ffordd sydd wedi ei chynllunio i sicrhau nad yw personau sy'n ddarostyngedig iddo yn gwybod ei fod neu y gall fod yn digwydd.”.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 3 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 16(2)