RHAN 2LLYWODRAETHU YSGOLION
PENNOD 1FFEDEREIDDIO YSGOLION A GYNHELIR
I121Dehongli'r Bennod hon
1
Yn y Bennod hon—
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol yng Nghymru;
ystyr “ffederasiwn” (“federation”) yw grŵp o ysgolion yng Nghymru sydd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd y Bennod hon neu a oedd wedi eu ffedereiddio yn rhinwedd adran 24 o Ddeddf Addysg 2002 cyn i'r Bennod hon ddod i rym, ac ystyr “ysgol ffederal” (“federated school”) yw ysgol sy'n ffurfio rhan o ffederasiwn;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy'n ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig F1... neu ysgol feithrin a gynhelir.
2
Mewn unrhyw ddeddfiad—
a
mae unrhyw gyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at gorff llywodraethu neu lywodraethwyr y ffederasiwn, a
b
mae unrhyw gyfeiriad at offeryn llywodraethu ysgol i'w ddehongli, mewn perthynas ag ysgol ffederal, fel cyfeiriad at offeryn llywodraethu'r ffederasiwn.