Mesur Addysg (Cymru) 2011

25Dyletswydd awdurdodau lleol i sicrhau bod hyfforddiant ar gael i glercodLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i awdurdod lleol yng Nghymru sicrhau bod unrhyw hyfforddiant y mae'r awdurdod yn barnu ei fod yn angenrheidiol yn cael ei roi ar gael i bob person sy'n cael ei benodi'n glerc i alluogi'r corff a benododd y clerc o dan adran 23 o Ddeddf Addysg 2002 i gydymffurfio ag unrhyw ofyniad o dan adran 24 o'r Mesur hwn.

(2)Caiff awdurdod lleol yng Nghymru godi ffi am unrhyw hyfforddiant a ddarperir (a chaiff godi ffioedd gwahanol mewn achosion gwahanol).

(3)Yn yr adran hon, ystyr “clerc” yw clerc i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir yn ardal yr awdurdod lleol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 25 ddim mewn grym ar Gymeradwyaeth Frenhinol, gweler a. 33(2)

I2A. 25 mewn grym ar 22.8.2013 gan O.S. 2013/2090, ergl. 2