31Dehongli'n gyffredinolLL+C
(1)Yn y Mesur hwn—
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw unrhyw un neu ragor o'r canlynol, pryd bynnag y cawsant eu pasio neu eu gwneud—
(a)Deddf Seneddol;
(b)Mesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(c)is-ddeddfwriaeth yn ystyr adran 21(1) o Ddeddf Dehongli 1978, gan gynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir o dan unrhyw Fesur neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(d)darpariaeth mewn unrhyw Ddeddf neu Fesur neu is-ddeddfwriaeth o'r fath;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw rhagnodedig mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru.
(2)Yn ddarostyngedig i is-adran (3), mae Deddf Addysg 1996 a darpariaethau'r Mesur hwn i'w darllen fel petai'r darpariaethau hynny wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
(3)Pan roddir, at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Mesur hwn, ystyr gwahanol i ymadrodd i'r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, bydd yr ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno yn gymwys yn lle'r un a roddwyd at ddibenion y Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 31 mewn grym ar 10.7.2011, gweler a. 33(1)