xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU
Wedi'u gwneud
16 Tachwedd 1999
Yn dod i rym
17 Tachwedd 1999
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Trwsio Cartref (Estyn) (Cymru) 1999 a deuant i rym ar 17 Tachwedd 1999.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig.
2. Estynnir argaeledd cymorth trwsio cartref drwy drin lwfans ceisio gwaith ar sail incwm(3) fel un o'r budd-daliadau a restrir yn is-adran (1)(e) o adran 77 (bod â hawl i gymorth trwsio cartref) o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998
Dafydd Elis Thomas
Llywydd Y Cynulliad Cenedlaethol
16 Tachwedd 1999
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996, caiff awdurdod tai lleol gynnig cymorth trwsio cartref ar ffurf naill ai grant neu ddeunydd ar gyfer gwneud gwaith trwsio, gwella neu addasu annedd.
Er mwyn bod â hawl i gymorth trwsio cartref rhaid i awdurdod tai lleol gael ei fodloni fod yr amodau a nodir yn adran 77(1) o'r Ddeddf yn gymwys. Mae'r rhain yn cynnwys yr amod bod y ceisydd neu bartner y ceisydd yn cael budd-dâl a restrir yn is-adran (1) (e).
Mae'r Rheoliadau hyn yn caniatáu i lwfans ceisio gwaith ar sail incwm gael ei drin fel budd-dâl o fewn yr is-adran honno.
Mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn dros Gymru'n unig.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Gweler adran 1(4) o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995 (p.18).