xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
TAI, CYMRU MEWNFUDO, CYMRU
Wedi'i wneud
3 Rhagfyr 1999
Yn dod i rym
6 Rhagfyr 1999
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) (Diwygio) (Cymru) 1999 a daw i rym ar 6 Rhagfyr 1999.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
2. Yng Ngorchymyn Cartrefi i Bobl Fyw Ynddynt a Digartrefedd (Personau sy'n Ddarostyngedig i Reolaeth Fewnfudo) 1996(3), yn erthygl 3 (dosbarthiadau a bennir o dan adran 9(1)), ar y diwedd, ychwanegir —
“Class DG – an asylum-seeker to whom, or a dependent of an asylum-seeker to whom, a local authority is required to provide support in accordance with regulations made under Schedule 9 to the Immigration and Asylum Act 1999(4).”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).
Jane Davidson
Dirprwy Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
3 Rhagfyr 1999
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae adran 9(1) o Ddeddf Lloches a Mewnfudo 1996 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod tai lleol, cyn belled ag y bo'n ymarferol, sicrhau na fydd unrhyw denantiaeth o gartref i bobl fyw ynddo na thrwydded i feddiannu cartref i bobl fyw ynddo a ddarperir o dan Ran II o Ddeddf Tai 1985 (darparu cartrefi i bobl fyw ynddynt), heblaw cartrefi a ddyrennir o dan Ran VI o Ddeddf Tai 1996 (dyrannu cartrefi i bobl fyw ynddynt), yn cael ei rhoi i berson sy'n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo oni fydd y person hwnnw yn perthyn i ddosbarth a bennir mewn gorchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Mae'r pŵer hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy yng Nghymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae'r Gorchymyn yn pennu, at ddibenion yr adran honno, geiswyr lloches y mae'n ofynnol i awdurdod lleol roi cymorth iddynt, neu i'w dibynyddion, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Atodlen 9 i Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru'n unig.
1996 p.49. Diwygiwyd adran 9, i'r graddau y mae'n gymwys i Gymru a Lloegr, gan baragraff 3 o Atodlen 16 i Ddeddf Tai 1996 (p.52), a Rhannau VII a VIII o Atodlen 19 iddi.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1996/1982; O.S. 1998/139 yw'r offeryn diwygio perthnasol.