2001 Rhif 3831 (Cy.317)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Taliadau) (Rhif 2) (Diwygio) (Cymru) 2001

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 17(1), 45 a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 1 sydd bellach yn arferadwy mewn perthynas â Chymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru2, ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) o'r Ddeddf honno ag unrhyw gyrff y mae'n ymddangos eu bod yn cynrychioli buddianau y mae'r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol arnynt; ac (i'r graddau y mae'r Rheoliadau hyn yn gosod taliadau mewn perthynas â monitro gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 19953), gan ei fod wedi'i ddynodi4) at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 19725 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau Canlynol: