xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3182 (Cy.298)

DIOGELU'R AMGYLCHEDD, CYMRU

Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

17 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 87(1) a (2) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(1) ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol (2), ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 87(7) o'r Ddeddf honno ag Asiantaeth yr Amgylchedd, unrhyw gyrff neu bersonau y mae'n ymddangos i'r Cynulliad Cenedlaethol eu bod yn cynrychioli buddiannau llywodraeth leol a diwydiant fel y gwêl yn briodol, ac unrhyw gyrff neu bersonau eraill y gwêl yn briodol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ansawdd Aer (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm

2.—(1Diwygir yr Atodlen i Reoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000(3) fel a ganlyn.

(2Yn y Tabl yn Rhan I o'r Atodlen—

(a)ychwanegwch res arall sy'n ymwneud â bensen, ac

(i)yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “Bensen: 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol”;

(ii)yn y golofn sy'n dwyn y teitl “Y dyddiad erbyn pryd mae'n rhaid cyflawni'r amcan” rhowch “31 Rhagfyr 2010”; a

(b)yn y rhes sy'n ymwneud â charbon monocsid, a'r golofn sy'n dwyn y teitl “Sylwedd/ Lefelau Amcanion Ansawdd Aer” rhowch “10” yn lle “11.6” a rhowch “dyddiol uchaf” ar ôl “cymedr 8 awr cyfredol”.

(3Yn Rhan II (Dehongli) o'r Atodlen—

(a)yn lle paragraff 2 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr 8 awr cyfredol) rhowch—

2.(1) Cymedr a gyfrifir ar sail ddyddiol yw cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf. Yr uchaf o'r cymedrau 8 awr cyfredol sy'n dod i ben yn ystod y diwrnod hwnnw yw'r cymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf ar gyfer sylwedd penodol mewn lleoliad penodol ar gyfer diwrnod penodol.

(2) At ddibenion is-baragraff (1), cymedr a gyfrifir yn ôl yr awr, gan ildio un cymedr 8 awr cyfredol yr awr, yw “cymedr 8 awr cyfredol”. Y cymedr 8 awr cyfredol ar gyfer y sylwedd perthnasol yn y lleoliad perthnasol ar gyfer awr benodol yw cymedr y cymedrau yn ôl yr awr ar gyfer y sylwedd yn y lleoliad ar gyfer yr awr honno a'r 7 awr flaenorol.

(b)ym mharagraff 3 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr blynyddol yn achos plwm etc.)—

(i)dilëwch “ac” yn is-baragraff (1)(b);

(ii)ar ôl “honno” yn is-baragraff (1)(c) rhowch—

(iii)yn lle is-baragraff (4) rhowch—

(4) At ddibenion unrhyw gyfrifiad o'r cymedr blynyddol ar gyfer bensen ar sail cymedr y lefelau dyddiol, y lefel ddyddiol ar gyfer bensen mewn lleoliad penodol ar ddiwrnod penodol yw'r lefel lle cofnodir bod bensen yn bresennol yn yr aer yn y lleoliad hwnnw yn ystod y pythefnos y digwydd y diwrnod ar sail sampl barhaus o'r aer a gymerir drwy gydol y pythefnos hwnnw (gan briodoli'r un lefel ddyddiol felly i bob diwrnod yn y pythefnos).

(c)ym mharagraff 4 (sy'n ymwneud â chyfrifo cymedr yn ôl yr awr), yn lle'r ail frawddeg rhowch—

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

17 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae Rhan IV o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (“Deddf 1995”) yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru adolygu ansawdd yr aer ar y pryd ac ansawdd tebygol yr aer yn y dyfodol yn eu hardaloedd. Ynghyd â'r adolygiadau hyn, rhaid asesu a yw unrhyw safonau neu amcanion ansawdd aer, fel y'u rhagnodir gan reoliadau, yn cael eu cyflawni neu yn debygol o gael eu cyflawni o fewn cyfnod rhagnodedig.

Os nad yw pob un o'r safonau neu'r amcanion ansawdd aer hynny yn cael eu cyflawni, neu yn debyg o gael eu cyflawni o fewn y cyfnod rhagnodedig, o fewn unrhyw ran o ardal cyngor, rhaid i'r cyngor o dan sylw ddynodi'r rhan honno o'i ardal yn ardal rheoli ansawdd aer (gweler adran 83(1) o Ddeddf 1995). Yna rhaid paratoi cynllun gweithredu sy'n ymdrin â'r ardal ddynodedig ac yn nodi sut mae'r cyngor yn bwriadu arfer ei bwerau er mwyn cyflawni'r safonau a'r amcanion ansawdd aer rhagnodedig (gweler adran 84(2) o Ddeddf 1995).

Mae Rheoliadau Ansawdd Aer (Cymru) 2000 (“Rheoliadau 2000”) yn gosod yr amcanion ansawdd aer ar gyfer Cymru ac yn rhagnodi'r cyfnodau y mae'n rhaid i'r amcanion hynny cael eu cyflawni o fewn iddynt.

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2000. Maent yn cyflwyno ail amcan ansawdd aer ar gyfer bensen, sef 5 microgram y metr ciwbig neu lai, o'i fynegi fel cymedr blynyddol, sef amcan y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2010 (rheoliad 2(2)(a)). Maent hefyd yn newid yr amcan ansawdd aer ar gyfer carbon monocsid, y mae'n rhaid ei gyflawni erbyn 31 Rhagfyr 2003, i gymedr 8 awr cyfredol dyddiol uchaf o 10 miligram y metr ciwbig neu lai (rheoliad 2(2)(b)).

Mae diwygiadau hefyd yn cael eu gwneud i Ran II (Dehongli) o'r Atodlen i Reoliadau 2000. Mae'r diwygiadau hynny yn effeithio ar yr amcanion ansawdd aer ar gyfer bensen, carbon monocsid a phlwm: mae ystyr yr ymadrodd “cymedr 8 awr cyfredol dyddiol” yn cael ei esbonio ac mae newidiadau yn cael eu gwneud i ystyr yr ymadroddion “cymedr yn ôl yr awr” a “cymedr blynyddol” (rheoliad 2(3)).

(1)

1995 p.25; gweler adran 91(1) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

(2)

Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru; gweler Erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo.