xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 3184 (Cy.300)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

18 Rhagfyr 2002

Yn dod i rym

19 Rhagfyr 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 214 o Ddeddf Addysg 2002(1).

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 19 Rhagfyr 2002.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn—

(2Yn y rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf 2002 a'r Atodlenni iddi.

Addasiadau sy'n ymwneud ag ysgolion sy'n peri pryder

3.  Os bydd adroddiad arolygydd wedi cael ei wneud cyn 19 Rhagfyr 2002:

(a)bydd adran 15(4) a (6) o Ddeddf 1998 yn effeithiol fel pe na bai'r diwygiadau a wneir gan adran 55 wedi dod i rym;

(b)caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru arfer unrhyw bwerau a roddwyd iddo gan adrannau 18(1) neu 19(1) o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2)(4) o Ddeddf 1996;

(c)caiff awdurdod addysg lleol arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 14(2)(a) neu (b), 16 neu 17 o Ddeddf 1998 fel pe bai'r adroddiad wedi'i baratoi ar ôl y dyddiad hwnnw a bod hysbysiad wedi'i roi o dan adran 16A(2) o Ddeddf 1996.

Addasu darpariaeth sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion

4.  Bydd adran 41(2) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “subsection (1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “subsection (2)”.

Addasu darpariaethau sy'n ymwneud â'r Cwricwlwm

5.—(1Yn y rheoliad hwn mae cyfeiriadau at gyfnod yr addasiad yn gyfeiriadau at y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw adrannau 102, 104 a 108(2) i rym.

(2Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adrannau 99(1), 100(1)(a), (2)(a) a (3), 111(1), 114(1) a (5) a 115(4)(a) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or maintained nursery school” wedi'u hepgor, a bydd adran 111(3) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “or a maintained nursery school” wedi'u hepgor.

(3Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 100 yn effeithiol fel pe bai paragraff (4)(b) wedi'i amnewid gan—

(b)functions relating to religious education and religious worship..

(4Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 101 yn effeithiol fel pe bai paragraff (1)(b) wedi'i amnewid gan—

(b)a curriculum for all registered pupils at the school of compulsory school age (known as “the National Curriculum for Wales”),.

(5Yn ystod cyfnod yr addasiad bydd adran 108 yn effeithiol fel pe bai'r canlynol wedi'u hepgor—

(a)yn is-adran (1)(b), y geiriau “the foundation stage and”;

(b)yn is-adran (4), “(2) or”, “the foundation stage or”, “educational programme or” a “(or the timetables of any person providing funded nursery education)”;

(c)yn is-adran (5) “(2) or”;

(ch)yn is-adran (8) “(2)(b) (iii) or” ;

(d)yn is-adran (10) “(6) or” ac “or, as the case may be, premises on which the funded nursery education is being provided”; a

(dd)yn is-adran (11) “(2)(b)(iii) or” a “(6) or”.

(6Bydd paragraff 6(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996(5) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “section 351(1)” wedi'u hamnewid gan y geiriau “section 78(1) or 99(1) of the Education Act 2002”.

Addasu darpariaethau sy'n ymwneud ag athrawon

6.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 19 Rhagfyr 2002 ac yn diweddu ar y dyddiad pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 132 i rym, bydd yr adran honno'n effeithiol fel pe bai is-adran (1) wedi'i hamnewid gan—

(2Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar y dyddiad y daw adran 122(3)(d) i rym(7) ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 133 i rym, ni fydd adran 122(3)(d) yn gymwys.

7.—(1Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod y daw paragraff 3(3) o Atodlen 12 i rym bydd adran 134(1) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau “with full registration” wedi'u hepgor.

(2Yn ystod y cyfnod sy'n dechrau ar 31 Mawrth 2003 ac yn diweddu ar y diwrnod pan ddaw'r rheoliadau o dan adran 134(1) i rym, bydd yr adran 12(2)(b) newydd o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 a amnewidir gan baragraff 81(a) o Atodlen 21 yn effeithiol fel pe amnewidiwyd y canlynol ar ei chyfer—

(b)required as a consequence of their employment to be so registered by virtue of section 218(1)(aa)(8)) of the Education Reform Act 1988..

Addasiad o ddarpariaeth yn ymwneud â gofal plant

8.  Bydd paragraff (c) o adran 113(3E) o Ddeddf yr Heddlu 1997(9) yn effeithiol fel pe bai'r geiriau o “for child minding” hyd at “that Act” wedi'u hamnewid gan y geiriau “for child minding or providing day care under section 71 of the Children Act 1989”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

D. Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

18 Rhagfyr 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud addasiadau i ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 (“y Ddeddf”) wedi'u pennu ar gyfer cyfnod trosiannol er mwyn hwyluso dwyn darpariaethau eraill o'r Ddeddf i rym ar ddyddiad cynharach nag y caiff y darpariaethau eraill hynny o'r Ddeddf eu dwyn i rym. Maent hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â'r Ddeddf. Yn benodol—

1.  Caiff pwerau ymyrryd mewn ysgolion sy'n peri pryder a ddiwygiwyd gan y Ddeddf eu cymhwyso mewn perthynas ag adroddiadau arolygwyr a wnaed cyn 19 Rhagfyr 2002, sef y dyddiad pan ddygir y darpariaethau newydd i rym (rheoliad 3).

2.  Gwneir diwygiad i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 i gywiro croesgyfeiriad anghywir yn y diwygiad a wnaed gan adran 41(2) o'r Ddeddf (rheoliad 4).

3.  Addesir Rhan 7 o'r Ddeddf (Y Cwricwlwm yng Nghymru), y dygir rhannau ohoni i rym gan Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2002 (“y Gorchymyn Cychwyn”), tra'n disgwyl i ddarpariaethau'r Rhan honno sy'n ymwneud â'r cyfnod sylfaen newydd, ysgolion meithrin a gynhelir ac addysg feithrin gael eu dwyn i rym (rheoliad 5(1) i (5)). Gwneir diwygiad hefyd i Ddeddf Addysg 1996 er mwyn cyfeirio at y darpariaethau cwricwlwm newydd yn y Ddeddf (rheoliad 5(6)).

4.  Addesir y diffiniad newydd o “qualified teacher” yn adran 132 o'r Ddeddf (sy'n cyfeirio at “a person who satisfies requirements specified in regulations”) a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn tra'n disgwyl i'r rheoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 6(1))).

5.  Datgymhwysir adran 122(3)(d) o'r Ddeddf (diffiniad o “school teacher” at ddibenion yr adran honno), sy'n cyfeirio at berson sy'n cyflawni gwaith o'r math a bennir gan reoliadau o dan adran 133(1) ac a ddygir i rym gan Orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol (ar gyfer Cymru a Lloegr), tra'n disgwyl i'r rheoliadau hynny ddod i rym (rheoliad 6(2)).

6.  Addesir cyfeiriad at gofrestru dros dro gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol yn adran 134 o'r Ddeddf (gofyniad i gofrestru gyda'r Cyngor Addysgu Cyffredinol) tra'n disgwyl dwyn darpariaethau Atodlen 12 i'r Ddeddf sy'n ymwneud â chofrestru dros dro o'r fath i rym (rheoliad 7(1)). Mewn modd tebyg addesir diwygiad canlyniadol yn Atodlen 21 i'r Ddeddf honno a ddygir i rym gan y Gorchymyn Cychwyn hwnnw sy'n cyfeirio at adran 134 o'r Ddeddf tra'n disgwyl i reoliadau o dan yr adran honno ddod i rym (rheoliad 7(2)).

7.  Gwneir diwygiad i Ddeddf yr Heddlu 1997 er mwyn cyfeirio'n gywir at Ddeddf Plant 1989 (rheoliad 8).

(4)

Mewnosodwyd gan adran 54.

(7)

Mae adran 122(3)(d) yn dod i rym ar ddyddiad a benodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol — gweler adran 216(2). Ni phenodwyd dyddiad hyd yn hyn.

(8)

Mewnosodwyd gan adran 11 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

(9)

1997 p.50. Diwygir yr adran hon hefyd gan baragraff 7 o Atodlen 13 i Ddeddf 2002.

(10)

1998 p.38.