xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
LLYWODRAETH LEOL, CYMRU
Wedi'i wneud
6 Rhagfyr 2002
Yn dod i rym yn unol ag Erthygl 1(2)
Mae Comisiwn Ffiniau Llwyodraeth Leol i Gymru wedi cyflwyno adroddiad dyddiedig Mawrth 2002 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adrannau 54(1) a 58(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972(1) ar ei adolygiad ar ran o Gymunedau Caerllion a Malpas ym Mwrdeistref Sirol Casnewydd ynghyd â'r cynigion y mae wedi eu llunio amdani;
a chan bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi penderfynu rhoi eu heffaith i'r cynigion hyn gydag addasiadau;
a bod mwy na chwe wythnos wedi mynd heibio ers i'r cynigion hynny gael eu gwneud;
yn awr mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac a freiniwyd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Casnewydd (Caerllion a Malpas) 2002.
(2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2003 sef y diwrnod penodedig at ddibenion y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r ffaith y bydd y Gorchymyn hwn at ddibenion pob achos rhagarweiniol neu achos sy'n ymwneud ag etholiad sydd i'w gynnal ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw yn dod i rym drannoeth y diwrnod y caiff ei wneud.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
Ystyr “Casnewydd” (“Newport”) yw Bwrdeistref Casnewydd;
ystyr “y map ffiniau” (“the boundary map”) yw'r map a gafodd ei baratoi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a'i farcio “Map Gorchymyn Casnewydd (Caerllion a Malpas) 2002” ac a adneuwyd yn unol â Rheoliad 5 o'r Rheoliadau;
ystyr “y Rheoliadau” (“the Regulations”) yw Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'i diwygiwyd)(3).
3. Bydd y rhan o Gasnewydd sydd yng nghymuned Caerllion ac a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau yn cael ei gwahanu oddi wrth y gymuned honno a bydd yn ffurfio rhan o gymuned Malpas.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru
E. Hart
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau
6 Rhagfyr 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn, a wnaed yn unol ag adran 58(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 yn rhoi eu heffaith i gynigion gan Gomisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol Cymru. Effaith y cynigion hynny fydd bod yr ardal (a ddangosir â llinellau du ar y map ffiniau y cyfeirir ato yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn) yn cael ei throsglwyddo o gymuned Caerllion i gymuned Malpas ar ôl i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Cafodd printiau o'r map ffiniau eu hadneuo a gellir eu harchwilio yn ystod oriau swyddfa arferol yn Swyddfeydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn y Ganolfan Ddinesig, Casnewydd ac yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd (Yr Is-adran Moderneiddio Llywodraeth Leol).
Mae Rheoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol 1976 (fel y'u diwygiwyd) y cyfeirir atynt yn Erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cynnwys darpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol ac atodol ynghylch effaith gorchmynion megis y gorchymyn hwn a'u gweithredu.
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1976/246, fel y'i diwygiwyd gan Reoliadau Newidiadau i Ardaloedd Llywodraeth Leol (Diwygio) 1978 (O.S. 1978/247).