xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2530 (Cy.245)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

1 Hydref 2003

Yn dod i rym

6 Hydref 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2):

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1 Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygiad Rhif 2) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 6 Hydref 2003.

(2Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(3Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliad 2 o'r Prif Reoliadau — Dehongli

2.  Ym mharagraff (1) o reoliad 2 o'r Prif Reoliadau (dehongli) —

(a)mewnosoder y diffiniadau canlynol yn ôl trefn yr wyddor—

“the Pension Credit Regulations” means the State Pension Credit Regulations 2002(4)

“savings credit” means a savings credit under the State Pension Credit Act 2002(5)

(b)yn lle'r diffiniad o “less dependent resident” rhodder—

“ less dependent resident” means a resident who is in, or for whom accommodation is proposed to be provided in, premises which are not an establishment which is carried on or managed by a person who is registered under Part II of the Care Standards Act 2000(6);.

Diwygio Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau — Diystyru Incwm

3.  Yn Atodlen 3 i'r Prif Reoliadau (symiau i'w diystyried wrth gyfrifo incwm heblaw enillion)

(a)ym mharagraff 17—

(i)yn is-baragraff (a), ar ôl “(permitted allowances)” rhodder “or paragraph 3 of Schedule 4 to the Adoption and Children Act 2002(7))”

(ii)ar y diwedd ychwaneger yr is-baragraff canlynol—

(2) Any payment other than a payment to which to which sub-paragraph (1)(a) applies, made to the resident in accordance with regulations made under paragraph 3 of Schedule 4 to the Adoption and Children Act 2002.;

(b)Ar ôl paragraff 28G mewnosoder y paragraffau canlynol—

Pension Credit

28H.(1) Where a resident is in receipt of savings credit as a person who has no partner and has qualifying income not exceeding the standard minimum guarantee—

(a)the amount of that savings credit where the amount received is £4.50 or less; or

(b)£4.50 of that savings credit where the amount received is greater than £4.50.

(2) Where a resident—

(a)has no partner;

(b)has attained the age of 65; and

(c)has qualifying income in excess of the standard minimum guarantee,

£4.50 of that qualifying income.

(3) Where a resident is in receipt of savings credit as a person who has a partner and has qualifying income not exceeding the standard minimum guarantee—

(a)the amount of that savings credit where the amount received is £6.75 or less; or

(b)£6.75 of that savings credit where the amount received is greater than £6.75.

(4) Subject to paragraph (5) where a resident—

(a)has a partner;

(b)has—

(i)attained the age of 65; or

(ii)has attained the qualifying age and his partner has attained the age of 65; and

(c)has qualifying income in excess of the standard minimum guarantee,

a sum of £6.75.

(5)  Where the sum referred to in sub-paragraph (4) has been disregarded in the assessment of the resident’s partner’s income under these Regulations, sub-paragraph (4) does not apply to the resident.

(6) For the purposes of this paragraph—

(a)a resident has a partner if he would be considered to have a partner for the purposes of the Pension Credit Regulations(8).

(b)“qualifying age” has the same meaning as in section 1(6) of the State Pension Credit Act 2002(9);

(c)“qualifying income” shall be construed in accordance with regulation 9 of the Pension Credit Regulations and for the purposes of sub-paragraphs (3) and (4) the resident’s qualifying income shall include any qualifying income of his partner.

(d)“Standard minimum guarantee” means, for the purposes of —

(i)sub-paragraphs (1) and (2), the amount prescribed by regulation 6(1)(b) of the Pension Credit Regulations; and

(ii)sub-paragraphs (3) and (4), the amount prescribed by regulation 6(1)(a) of the Pension Credit Regulations.

28I.  Any payment made to a temporary resident in lieu of concessionary coal pursuant to section 19 (1)(b) or (c) of the Coal Industry Act 1994(10).

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau — Taliadau mabwysiadu

4.  Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (cyfalaf sydd i'w ddiystyru) ar ôl paragraff 23, ychwaneger y paragraff canlynol—

24.  Any payment made to the resident in accordance with regulations made pursuant to paragraph 3 of Schedule 4 of the Adoption and Children Act 2002..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (11)

D.Elis-Thomas

Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru

1 Hydref 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”). Mae'r Prif Reoliadau yn gosod y sail y caiff awdurdodau lleol asesu gallu personau y maent yn trefnu llety ar eu cyfer i dalu o dan ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Yn ogystal â diwygiadau i ganiatáu i breswylwyr fanteisio ar eu hawl i'r elfen Credyd Cynilion Credyd Pensiwn, maent hefyd yn gwneud nifer o ddiwygiadau amrywiol.

Mae Rheoliad 2 yn mewnosod dau ddiffiniad newydd mewn perthynas â Chredyd Pensiwn ac yn diweddaru diffiniad arall yn y Prif Reoliadau.

Mae Rheoliad 3 yn darparu i daliadau a wneir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel incwm. Mae hefyd yn darparu i hyd at £4.50 (neu £6.75 i gwpl) i unrhyw gredyd cynilion gael eu diystyru pan fydd gan unigolyn incwm cymhwysol nad yw'n fwy na lleiafswm y warant safonol. Pan fydd gan unigolyn incwm cymhwysol sy'n fwy na lleiafswm y warant safonol mae diystyriaeth safonol o £4.50 (£6.75 i gyplau).

Mae Rheoliad 4 yn darparu i daliadau a wneir yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 gael eu diystyru fel cyfalaf.

(1)

1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi a chan gan adran 6 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.

(2)

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/2977; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/602 ac O.S. 2002/814 (Cy.94).

(5)

2002 p.16, gweler adran 1(3)(b) ac adran 3.

(8)

O.S. 2002/1792 (“Rheoliadau 2002”). Yn Rheoliadau 2002 cyfeirir at ddau aelod o gwpl priod neu ddi-briod fel “partners” (gweler rheoliad 1(3)). Diffinnir ymadroddion “married couple” ac “unmarried couple”, at ddibenion Rheoliadau 2002, yn adran 17 o Ddeddf Credyd Pensiwn Gwladol 2002 (p.16). Ystyr “married couple” yw dyn a menyw sy'n briod â'i gilydd ac yn byw ar yr un aelwyd. Mae Rheoliad 5 o Reoliadau 2002 yn nodi'r amgylchiadau pan ymdrinnir â chwpl sy'n briod fel rhai nad ydynt yn aelodau o'r un aelwyd. Ystyr “unmarried couple” yw dyn a menyw nad ydynt yn briod â'i gilydd ond sy'n byw gyda'i gilydd fel gŵr a gwraig heblaw mewn amgylchiadau a ragnodir.

(10)

1994 p.21.

(11)

1998 p.38.