xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3231 (Cy.311)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2003

Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 551 a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dirymu

2.  Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r rheoliadau canlynol —

(a)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000(3);

(b)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2001(4));

(c)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) (Diwygio) 2002(5); ac

(ch)Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2002(6).

Dehongli

3.  Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “dosbarth meithrin” (“nursery class”) yw dosbarth sydd wrthi'n bennaf yn darparu addysg lawnamser neu ran-amser sydd yn addas ar gyfer plant nad ydynt wedi cyrraedd oedran ysgol orfodol;

ystyr “y flwyddyn ysgol” (“school year”) yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n diweddu gyda dechrau'r tymor ysgol cyntaf sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol; ac

ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, neu ysgol arbennig nad yw awdurdod addysg lleol yn ei chynnal.

Sesiynau ysgol

4.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (6), rhennir pob diwrnod y mae ysgol yn cyfarfod yn ddwy sesiwn a wahenir gan egwyl yng nghanol y dydd oni bai bod amgylchiadau eithriadol yn peri nad yw hyn yn ddymunol.

(2Rhaid cynnal o leiaf 380 o sesiynau mewn ysgol yn ystod unrhyw flwyddyn ysgol ond er hynny nid oes dim yn y paragraff hwn sy'n ei gwneud yn ofynnol i ddosbarth meithrin gyfarfod am y nifer hwnnw o sesiynau.

(3Pan rwystrir ysgol ar unrhyw adeg rhag cyfarfod am un neu fwy o sesiynau y bwriadwyd iddi gyfarfod, ac nad yw'n rhesymol ymarferol gwneud trefniadau iddi gyfarfod ar adeg wahanol ar gyfer y sesiynau hynny, ymdrinnir â'r ysgol at ddibenion paragraff (2) fel pe bai wedi cyfarfod yn unol â'r bwriad.

(4Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ar bob diwrnod y bydd ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin yn cyfarfod rhaid darparu o leiaf deirawr o weithgareddau addas.

(5Mae'n ddigonol darparu gweithgareddau addas am awr a hanner i ddisgybl ar ddiwrnod pan fydd y disgybl —

(a)yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin sy'n cyfarfod am un sesiwn yn unig; neu

(b)yn bresennol mewn ysgol feithrin neu ddosbarth meithrin am un sesiwn yn unig allan o ddwy sesiwn.

(6Mewn ysgol sy'n cyfarfod ar chwe diwrnod o'r wythnos gall fod un sesiwn yn unig ar ddau o'r dyddiau hynny.

5.—(1Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2003—2004 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

(2Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2004—2005 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

(3Pan fydd sesiwn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2005—2006 wedi'i neilltuo'n llwyr neu yn bennaf i ddarparu hyfforddiant y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo ar gyfer athrawon a gyflogir yn yr ysgol honno, ymdrinnir â'r sesiwn honno at ddibenion rheoliad 4 fel pe bai'n sesiwn pan gyfarfu'r ysgol.

(4Nid yw paragraff (1) yn gymwys ond mewn perthynas â sesiynau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2004 ac nid oes dim ym mharagraffau (1), (2) a (3) i fod yn effeithiol mewn perthynas â mwy na dwy sesiwn ysgol ym mhob blwyddyn ysgol.

(5Mae paragraff (1) yn gymwys i hyfforddiant sy'n ymwneud â datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(7).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Addysg (Y Diwrnod Ysgol a'r Flwyddyn Ysgol) (Cymru) 2000 fel y'i diwygiwyd.

Mae Rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyd y diwrnod ysgol a'r flwyddyn ysgol.

Mae Rheoliad 5 yn darparu na cheir trin mwy na dwy sesiwn ysgol a neilltuwyd ar gyfer hyfforddi athrawon mewn datblygu trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r cyfnod allweddol cyntaf a throsi rhwng y cyfnodau allweddol ac ar gyfer cynllunio a chyflwyno'r cwricwlwm ym mhob un o'r blynyddoedd ysgol 2003—2004, 2004—2005 a 2005—2006 fel sesiynau pan gyfarfu'r ysgol.

(1)

1996 p.56; mewnosodwyd adran 551(1A) gan baragraff 39 o Atodlen 7 i Ddeddf Addysg 1997 (p.44), diwygiwyd adran 551(2) gan baragraff 166 o Atodlen 30 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31). I gael ystyr “regulations” a “prescribed” gweler adran 579(1).

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).