xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3235 (Cy.315)

BYWYD GWYLLT, CYMRU

Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

31 Rhagfyr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 7(1) a (2) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(1) ac sydd bellach yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru, Modrwyo a Marcio Adar Caeth Penodol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “ceidwad” (“keeper”) yw'r person sy'n cadw, neu sy'n meddu ar, neu sydd â rheolaeth dros, aderyn;

ystyr “CITES” (“CITES”) yw'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl(3);

ystyr “marc CITES” (“CITES marking”) yw marc sy'n bodloni'r gofynion sydd wedi'u nodi yn rheoliad 5(3);

ystyr “y Cynulliad Cenedlaethol” (“the National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;

ystyr “modrwy” (“ring”) yw unrhyw fodrwy neu fand ar gyfer modrwyo aderyn.

(2Yn y Rheoliadau hyn, mae unrhyw gyfeiriad at aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn gyfeiriad at unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf ac y mae unrhyw berson yn ei gadw, yn meddu arno neu'n ei reoli.

Cofrestru

3.—(1Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf, gadw cofrestr o adar y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt ac sy'n cael eu cadw mewn cyfeiriadau yng Nghymru.

(2Rhaid i gais am gofrestriad gael ei wneud gan geidwad, neu ddarpar geidwad, yr aderyn y mae'r cais yn ymwneud ag ef ar ffurflen a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol.

(3Pan fydd yn cael cais am gofrestriad, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), nodi'r wybodaeth berthnasol ar y gofrestr.

(4Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chofrestru unrhyw aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo oni bai ei fod wedi'i fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.

(5Caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw dâl rhesymol am gofrestru y mae wedi penderfynu arno o dan adran 7(2A) o'r Ddeddf fynd gyda chais a chaiff wrthod gwneud cofnod yn y gofrestr ar gyfer cais nes bod y tâl hwnnw wedi'i dalu.

(6Os bydd ceidwad cofrestredig aderyn yn hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig fod yr aderyn i beidio â chael ei gadw yn y cyfeiriad cofrestredig, gan ddatgan y dyddiad y mae hynny i fod i ddigwydd a chan nodi cyfeiriad arall yng Nghymru y mae'r aderyn i'w gadw ynddo ar ôl y dyddiad hwnnw, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol, ar yr amod bod hysbysiad yn dod i law cyn y dyddiad hwnnw, newid y cyfeiriad cofrestredig felly o'r dyddiad hwnnw ymlaen.

Terfynu cofrestriad

4.—(1Mae effaith cofrestriad yn peidio —

(a)pan fydd yr aderyn cofrestredig —

(i)yn marw;

(ii)yn dianc neu'n cael ei ryddhau i'r gwyllt;

(iii)yn cael ei waredu drwy ei werthu neu fel arall;

(iv)yn cael ei allforio o'r Deyrnas Unedig;

(b)pan fydd y fodrwy a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn ôl y digwydd, y marc CITES, yn cael ei thynnu oddi ar yr aderyn neu pan ddaw'r wybodaeth adnabod sydd arni neu sydd wedi'i storio arni yn annarllenadwy;

(c)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan berson heblaw ei geidwad cofrestredig neu pan fydd ym meddiant neu o dan reolaeth y person hwnnw, oni fwriedir ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw, ei feddiannu neu ei reoli ei ddychwelyd i'w geidwad cofrestredig o fewn y cyfnod penodedig a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, ac yn yr is-baragraff hwn ystyr “y cyfnod penodedig” —

(i)os na fydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o dair wythnos, a

(ii)os bydd yr aderyn yn cael ei gadw'n barhaus yn ei gyfeiriad cofrestredig, yw cyfnod o chwe wythnos;

(ch)pan fydd yr aderyn cofrestredig yn cael ei gadw gan ei geidwad cofrestredig, neu pan fydd ym meddiant neu o dan reolaeth y ceidwad hwnnw, ond yn peidio â chael ei gadw yn ei gyfeiriad cofrestredig, oni bai —

(i)y bwriedir, ar yr adeg y mae'r aderyn yn dechrau cael ei gadw, ei ddychwelyd i'w gyfeiriad cofrestredig o fewn tair wythnos a bod yr aderyn yn cael ei ddychwelyd felly, neu

(ii)bod y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei hysbysu'n ysgrifenedig, cyn bod yr aderyn yn peidio â chael ei gadw felly, o'r cyfeiriad newydd lle bydd yn cael ei gadw ac o'r dyddiad y dechreuir ei gadw felly, a bod y cyfeiriad newydd hwnnw yng Nghymru.

(2Yn rheoliad 3(6) ac ym mharagraff (1)(c) ac (ch) uchod, ystyr “ceidwad cofrestredig” mewn perthynas ag aderyn cofrestredig yw'r person sydd wedi'i gofrestru fel ceidwad aderyn yn y gofrestr a gedwir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 3(1), ac ystyr “cyfeiriad cofrestredig” yw'r cyfeiriad sydd wedi'i gofrestru yn y gofrestr honno fel y cyfeiriad lle mae'r yr aderyn yn cael ei gadw.

Modrwyo a marcio

5.—(1Rhaid i bob aderyn y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo gael ei fodrwyo yn unol â pharagraff (2) neu ei farcio yn unol â pharagraff (3).

(2Mae aderyn wedi'i fodrwyo yn unol â'r paragraff hwn —

(a)os yw'r aderyn wedi'i fodrwyo â modrwy a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol; a

(b)os yw'r person a fodrwyodd yr aderyn wedi llenwi datganiad modrwyo ar ffurflen a gafwyd oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, ac wedi dychwelyd y ffurflen honno i'r Cynulliad Cenedlaethol.

(3Mae aderyn wedi'i farcio yn unol â'r paragraff hwn os yw'r aderyn wedi'i farcio yn unol â'r gofynion ynghylch marcio sbesimenau mewn Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu paragraff 7 o Erthygl VI o CITES.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

6.—(1Dirymir drwy hyn Reoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982(4), i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru.

(2Os —

(a)yr oedd yn ofynnol i unrhyw berson neu os oedd unrhyw berson wedi'i awdurdodi(5) i gymryd unrhyw gamau mewn perthynas â Chymru o dan unrhyw un o ddarpariaethau Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982;

(b)y cafodd y camau hynny eu cymryd cyn i'r Rheoliadau hynny gael eu dirymu gan y Rheoliadau hyn; ac

(c)y cafodd y ddarpariaeth o dan sylw ei hail-ddeddfu gan y Rheoliadau hyn;

mae'r camau hynny i'w trin, at ddibenion y Rheoliadau hyn, fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae adran 7(1) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (“y Ddeddf”) yn darparu bod person sy'n cadw, neu'n meddu ar neu sydd â rheolaeth dros, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 o'r Ddeddf, nad yw wedi'i gofrestru ac nad yw wedi'i fodrwyo na'i farcio yn unol â rheoliadau a wnaed o dan yr adran honno, yn euog o dramgwydd.

Mae'r pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 7(1) o'r Ddeddf mewn perthynas â Chymru wedi'i freinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”).

Mae Atodlen 4 i'r Ddeddf wedi'i diwygio gan Orchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 4) 1994 (O.S. 1994/1151).

Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r gofynion sy'n gymwys i Gymru o ran cofrestru, modrwyo a marcio at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 (O.S. 1982/1221) i'r graddau y mae'r Rheoliadau hynny yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol gadw cofrestr o adar at ddibenion adran 7(1) o'r Ddeddf. Mae'n darparu hefyd bod rhaid i geidwad, neu ddarpar geidwad, unrhyw aderyn sydd wedi'i gynnwys yn Atodlen 4 i'r Ddeddf wneud cais am gofrestriad ar ffurflen a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol. Ni chaiff y Cynulliad Cenedlaethol gofrestru'r aderyn oni chaiff ei fodloni bod yr aderyn wedi'i fodrwyo neu wedi'i farcio yn unol â rheoliad 5.

Mae Rheoliad 4 yn nodi'r amgylchiadau sy'n peri bod cofrestriad yn cael ei derfynu.

Mae Rheoliad 5 yn darparu ar gyfer modrwyo neu farcio adar y mae'r Rheoliadau yn gymwys iddynt.

Mae Rheoliad 5(2) yn darparu bod rhaid modrwyo aderyn â modrwy a geir oddi wrth y Cynulliad Cenedlaethol, a bod rhaid i'r person sy'n gwneud y modrwyo lenwi datganiad modrwyo a'i ddychwelyd i'r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae Rheoliad 5(3) yn darparu dull amgen y caniateir ei ddefnyddio, sef marcio aderyn yn unol â'r Rheoliadau Ewropeaidd sy'n gweithredu gofynion paragraff 7 o Erthygl VI o'r Confensiwn ar y Fasnach Ryngwladol mewn Rhywogaethau Ffawna a Fflora Gwyllt mewn Perygl (“CITES”). Y Rheoliad Ewropeaidd sydd ar hyn o bryd yn gweithredu'r ddarpariaeth berthnasol yn CITES yw Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 1808/2001 dyddiedig 30 Awst 2001 sy'n gosod rheolau manwl ynglŷn â gweithredu Rheoliad y Cyngor 338/97 ar warchod rhywogaethau ffawna a fflora gwyllt drwy reoleiddio'r fasnach ynddynt (OJ L 250/1, 19.9.2001).

Mae Rheoliad 6 yn dirymu Rheoliadau Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (Cofrestru a Modrwyo Adar Caeth Penodol) 1982 (“Rheoliadau 1982”) mewn perthynas â Chymru. Mae'n gwneud darpariaethau trosiannol hefyd, sy'n darparu, os bydd camau wedi'u cymryd gan unrhyw berson, cyn i Reoliadau 1982 gael eu dirymu, o dan unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hynny sy'n cael ei hailddeddfu yn y Rheoliadau hyn, mae'r camau hynny i'w trin fel petaent wedi'u cymryd o dan y Rheoliadau hyn.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â Chymru, yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672).

(3)

Fe'i llofnodwyd yn Washington ar 3 Mawrth 1973.

(4)

O.S. 1982/1221, a ddiwygiwyd gan O.S. 1991/478 ac O.S. 1994/ 1152.

(5)

Yn rhinwedd O.S. 1999/672.