2004 Rhif 3157 (Cy.274)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

GAN FOD Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ystyried y ffaith bod natur ei awdurdodiad drwy'r Gorchymyn hwn ar gyfer defnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn golygu na fyddai'r graddau y byddai cofnodion o bethau sydd wedi'u gwneud i'r diben hwnnw ar gael, os o gwbl, yn llai boddhaol yn yr achosion hynny pan ddefnyddir cyfryngau cyfathrebu electronig nag y byddent mewn achosion eraill

YN AWR FELLY, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 20001, a gyda chydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru2, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: