xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 3157 (Cy.274)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004

Wedi'i wneud

30 Tachwedd 2004

Yn dod i rym

1 Ionawr 2005

GAN FOD Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar ôl iddo ystyried y ffaith bod natur ei awdurdodiad drwy'r Gorchymyn hwn ar gyfer defnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn golygu na fyddai'r graddau y byddai cofnodion o bethau sydd wedi'u gwneud i'r diben hwnnw ar gael, os o gwbl, yn llai boddhaol yn yr achosion hynny pan ddefnyddir cyfryngau cyfathrebu electronig nag y byddent mewn achosion eraill

YN AWR FELLY, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 8, 9 a 10 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000(1), a gyda chydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Cyfathrebu Electronig) (Cymru) (Rhif 2) 2004 a daw i rym ar 1 Ionawr 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i dir yng Nghymru.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud ag apelau cynllunio

2.  Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003(3) yn unol ag Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn.

Diwygio rheoliadau sy'n ymwneud â hysbysiadau gorfodi ac apelau

3.—(1Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003(4) yn unol ag Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn.

(2Diwygir Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003(5) yn unol ag Atodlen 3 i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6))

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

30 Tachwedd 2004

Erthygl 2

ATODLEN 1

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

1.  Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac, yn y diffiniad a geir ynddo o “holiadur”, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, mewnosoder—

2.  Ar ôl rheoliad 2(1), ychwaneger—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig,—

(a)bydd yr ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi'i chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person sydd o dan y rwymedigaeth;

(b)bydd cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r fath bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y pethau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(3) Bydd paragraffau (4) i (7) yn gymwys pan fydd person yn defnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn y Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).

(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd yr hysbysiad neu ddogfen arall a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig—

(a)yn gallu cael ei gyrchu neu ei chyrchu gan y derbyniwr,

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ato neu ati yn nes ymlaen.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen arall ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu hwnt i oriau busnes y derbyniwr, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (4); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny..

3.  Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau), ychwaneger ar ôl paragraff (2)—

(2A) Pan fydd apelydd (neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol) yn rhoi gwybod felly i'r Cynulliad Cenedlaethol gan ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir bod yr apelydd wedi cytuno—

(a)defnyddio cyfathrebiadau tebyg at holl ddibenion y Rheoliadau hyn o ran yr apêl a'r rheini'n gyfathrebiadau y mae modd eu cyflawni'n electronig;

(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yng ngohebiaeth yr apelydd wrth hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r ohebiaeth honno; ac

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu ei gytundeb yn unol â rheoliad 12A,

ac ni fydd y cyfeiriadau a geir ym mharagraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn at benderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i'w cymryd fel pe baent yn eithrio defnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig, yn unol â'r paragraff hwn a rheoliad 2..

4.  Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd—

(9) Pan fydd parti y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, bydd y rheoliad hwn yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ganlyn—

(a)os yr awdurdod cynllunio lleol yw'r parti sy'n dewis gwneud hynny, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (3), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7);

(b)os yr apelydd yw'r parti sy'n dewis gwneud hynny, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (4), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7)..

5.  Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—

12.  Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy'r post; neu

(b)drwy gyfrwng cyfathrebu electronig i drosglwyddo'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson yn y cyfeiriad y caiff y person hwnnw ei bennu at y diben hwn am y tro..

6.  Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—

Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfryngau cyfathrebu electronig

12A.  Os na fydd person yn fodlon derbyn defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i'r awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan ddod yn effeithiol ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad..

Erthygl 3(1)

ATODLEN 2

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003

1.  Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) a, chyn y diffiniad o “hysbysiad gorfodi” a geir yno, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

2.  Yn rheoliad 4 (nodyn esboniadol i'w anfon gyda chopi o'r hysbysiad gorfodi), ar ddiwedd is-baragraff (a)(ii), mewnosoder—

3.  Ar ôl rheoliad 9 (hysbysiad bod pob dogfen sydd ei hangen wedi cyrraedd), mewnosoder—

Defnyddio cyfathrebu electronig

9A.(1) Bydd paragraffau (2) i (6) o'r rheoliad hwn yn gymwys pan ddefnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson at ddiben cyflawni unrhyw ofyniad sydd yn Rhan 3 o'r Rheoliadau hyn i roi neu i anfon unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu unrhyw ddogfen arall at unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).

(2) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng y cyfathrebu electronig—

(a)yn gallu cael ei gyrchu gan y derbyniwr;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(3) Ym mharagraff (2), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn yr hysbysiad neu'r ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi ar ffurf dogfen brintiedig.

(4) Os caiff y derbyniwr y cyfathrebiad electronig y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(5) Caiff gofyniad bod yn rhaid i unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig ei gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (2); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny.

(6) Pan fydd person yn apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan reoliad 6 drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir fod y person wedi cytuno—

(a)defnyddio'r cyfrwng cyfathrebu hynny at yr holl ddibenion sy'n ymwneud â'r apêl y mae modd eu cyflawni drwy gyfrwng electronig;

(b)mai cyfeiriad yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yn natganiad apelio yr apelydd neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r datganiad hwnnw;

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo roi hysbysiad yn unol â rheoliad 12A ei fod yn dymuno dirymu y cytundeb..

4.  Yn lle rheoliad 12 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—

Trosglwyddo dogfennau

12.  Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy'r post; neu

(b)drwy ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad post y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro..

5.  Ar ôl rheoliad 12, mewnosoder—

Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio cyfrwng cyfathrebu electronig

12A.  Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig ei fod—

(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan ddod yn effeithiol ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad..

Erthygl 3(2)

ATODLEN 3

Diwygio Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003

1.  Ailrifer rheoliad 2 (dehongli) yn rheoliad 2(1) ac—

(a)ar ôl y diffiniad o “awdurdod cynllunio lleol” a geir yn y rheoliad hwnnw, mewnosoder y diffiniad a ganlyn—

(b)yn y diffiniad o “holiadur” a geir yn y rheoliad hwnnw, ar ôl y geiriau “Rheoliadau hyn”, mewnosoder—

2.  Ar ôl rheoliad 2(1), mewnosoder—

(2) Yn y Rheoliadau hyn, ac mewn perthynas â defnyddio cyfathrebu electronig at unrhyw ddiben yn y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni yn electronig,—

(a)bydd yr ymadrodd “cyfeiriad” yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebu o'r fath, ac eithrio pan fydd y Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i roi enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni fydd y rhwymedigaeth wedi'i chyflawni oni roddir cyfeiriad post gan y person sydd o dan y rwymedigaeth;

(b)bydd cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o'r fath bethau, yn cynnwys cyfeiriadau at y pethau hynny, neu at gopïau ohonynt, ar ffurf electronig.

(3) Bydd paragraffau (4) a (7) yn gymwys os defnyddir cyfrwng cyfathrebu electronig gan berson er mwyn cyflawni unrhyw ofyniad yn rheoliadau 4 i 8 o'r Rheoliadau hyn y dylai sylwadau neu ddogfennau eraill gael eu hanfon at neu eu cyflwyno i unrhyw berson arall (“y derbyniwr”).

(4) Cymerir y bydd y gofyniad wedi'i gyflawni pan fydd y ddogfen a drosglwyddir drwy gyfrwng cyfathrebu electronig—

(a)yn gallu cael ei chyrchu gan y derbyniwr;

(b)yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys; ac

(c)yn ddigon parhaol fel bod modd cyfeirio ati yn nes ymlaen.

(5) Ym mharagraff (4), ystyr “yn ddarllenadwy ym mhob manylyn o bwys” yw bod yr wybodaeth a geir yn y ddogfen ar gael i'r derbyniwr i raddau nad ydynt yn llai na phe bai wedi'i hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.

(6) Os cafwyd y cyfathrebiad electronig gan y derbyniwr y tu hwnt i'w oriau busnes, cymerir ei fod wedi'i gael ar y diwrnod gwaith nesaf; ac, at y diben hwn, ystyr “diwrnod gwaith” yw diwrnod nad ydyw'n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn ŵyl y Banc nac yn ŵyl gyhoeddus arall.

(7) Bydd gofyniad yn y Rheoliadau hyn y dylai unrhyw hysbysiad neu ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi'i gyflawni os bydd y ddogfen honno'n cwrdd â'r meini prawf a geir ym mharagraff (4); ac mae “yn ysgrifenedig” ac ymadroddion cytras i'w dehongli yn unol â hynny (ac eithrio yn rheoliad 5)..

3.  Yn rheoliad 3 (cymhwyso'r Rheoliadau hyn), ar ôl paragraff (2), rhodder—

(2A) Pan fydd apelydd (neu, yn ôl y digwydd, yr apelydd a'r awdurdod cynllunio lleol) yn rhoi gwybod felly i'r Cynulliad Cenedlaethol drwy gyfrwng cyfathrebu electronig, cymerir bod yr apelydd wedi cytuno—

(a)defnyddio'r cyfathrebiadau hynny at holl ddibenion y Rheoliadau hyn, o ran yr apêl, a rheini'n gyfathrebiadau y mae modd eu cyflawni'n electronig;

(b)mai'r cyfeiriad a roddwyd gan yr apelydd at ddibenion cyfathrebu felly yw'r cyfeiriad a ymgorfforwyd yng ngohebiaeth y person hwnnw wrth hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol, neu'r cyfeiriad y mae'n rhesymol ei gysylltu fel arall â'r ohebiaeth honno; ac

(c)y bydd cytundeb tybiedig yr apelydd o dan y paragraff hwn yn parhau hyd nes iddo hysbysu ei fod yn dymuno dirymu ei gytundeb yn unol â rheoliad 11A,

ac ni fydd y cyfeiriadau a geir ym mharagraffau (1) a (2) o'r rheoliad hwn at benderfynu apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i'w cymryd fel pe baent yn eithrio defnyddio cyfathrebu electronig yn unol â'r paragraff hwn a rheoliad 2..

4.  Yn rheoliad 7 (sylwadau), ychwaneger ar y diwedd—

(9) Pan fydd parti y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio dull cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, bydd y rheoliad hwn yn effeithiol yn ddarostyngedig i'r addasiadau a ganlyn—

(a)os yr apelydd yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'r” ym mharagraff (3), rhodder y gair “y”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7);

(b)os yr awdurdod cynllunio lleol yw'r parti sy'n dewis gwneud felly, yn lle'r geiriau “2 gopi o'i” ym mharagraff (4), rhodder “ei”, a dileer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (7)..

5.  Yn lle rheoliad 11 (trosglwyddo dogfennau), rhodder—

Trosglwyddo dogfennau

11.  Caniateir cyflwyno, anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae'n ofynnol neu yr awdurdodwyd eu cyflwyno, eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—

(a)drwy'r post; neu

(b)drwy gyfrwng cyfathrebu electronig i gyflwyno, anfon neu gyflenwi'r hysbysiad neu'r ddogfen (yn ôl y digwydd) i berson yn y cyfeiriad y caiff ef ei bennu at y diben hwnnw am y tro..

6.  Ar ôl rheoliad 11, mewnosoder—

Tynnu'n ôl gydsyniad i ddefnyddio dull cyfathrebu electronig

11A.  Os na fydd person yn fodlon defnyddio cyfathrebu electronig mwyach at unrhyw ddiben o dan y Rheoliadau hyn y mae modd ei gyflawni'n electronig, rhaid i'r person hwnnw roi hysbysiad ysgrifenedig—

(a)yn tynnu yn ôl unrhyw gyfeiriad a hysbyswyd i'r Cynulliad Cenedlaethol neu i awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw; neu

(b)yn dirymu unrhyw gytundeb a wnaed gyda'r Cynulliad Cenedlaethol neu gydag awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,

a bydd y tynnu yn ôl neu'r dirymu hwnnw yn derfynol, gan gymryd effaith ar ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad gan y person ond heb fod yn llai na saith niwrnod ar ôl y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad..

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 8 o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (“Deddf 2000”) yn rhoi pŵer i'r Gweinidog priodol (fel y'i diffinir yn adran 9 o'r Ddeddf honno), drwy Orchymyn, addasu is-ddeddfwriaeth at ddibenion awdurdodi neu hwyluso'r defnydd o gyfathrebu electronig.

At ddibenion adran 8 o Ddeddf 2000, caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), yn rhinwedd adran 10(2) o Ddeddf 2000, arfer y pŵer i wneud Gorchmynion i'r graddau bod y pŵer hwnnw yn cael ei arfer at un o'r dibenion a geir yn adran 10(3) o Ddeddf 2000.

Mae adran 10(5) o Ddeddf 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol sicrhau cydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol pan fydd yn arfer y pŵer hwn i wneud Gorchmynion. Mae cydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi'i sicrhau.

Mae swyddogaethau y mae adran 10(3) o Ddeddf 2000 yn gymwys iddynt, ac sy'n berthnasol i'r Gorchymyn hwn, i'w cael mewn rheoliadau a wnaed gan y Cynulliad Cenedlaethol drwy arfer ei bwerau o dan—

(a)Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9) (“y Ddeddf Adeiladau Rhestredig”), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); a

(b)Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) (“y Ddeddf Cynllunio”), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (fel y'i amrywiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2003/390) (Cy.5)).

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn, ac Atodlen 1 iddo, yn addasu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/390) (Cy.52).

Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn, ac Atodlenni 2 a 3 iddo, yn addasu Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Hysbysiadau Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/394) (Cy.53) a Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Gorfodi) (Gweithrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/395) (Cy.54).

Mae diwygiadau tebyg i'r rhai a wneir gan y Gorchymyn hwn yn cael eu gwneud, drwy orchymyn, gan—

(a)y Cynulliad Cenedlaethol (gyda chydsyniad Ysgrifennydd Gwladol Cymru), i Ddeddfau a rheoliadau sy'n ymwneud â chynllunio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru; a

(b)yr Arglwydd Ganghellor, i reolau gweithdrefnol a wnaed ganddo mewn perthynas ag apelau cynllunio yng Nghymru.

(1)

2000 p.7. At ddibenion y Gorchymyn hwn, yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5), mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y swyddogaethau perthnasol yn, neu o dan, Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (p.8) a Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (p.9).

(2)

Gweler adran 10(5) o Ddeddf Cyfathrebu Electronig 2000 (p.7).