xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ARDRETHU A PHRISIO, CYMRU
Wedi'u gwneud
8 Rhagfyr 2004
Yn dod i rym
31 Rhagfyr 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 140(4), a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1) a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) (Diwygio) 2004 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2004.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
2. Yn y Rheoliadau hyn ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(2).
3. O ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, diwygir Atodlenni 2 a 4 i Reoliadau 1992 fel a ganlyn:—
(a)ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2, yn lle “0.998” rhoddir “1.009”; a
(b)yn lle Atodlen 4 i Reoliadau 1992, rhoddir yr Atodlen a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.
Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
8 Rhagfyr 2004
Rheoliad 2
Regulation 6
Billing authority area | Prescribed figure |
---|---|
Blaenau Gwent | 52,800 |
Bridgend | 100,400 |
Caerphilly | 129,500 |
Carmarthenshire | 137,600 |
Cardiff | 245,500 |
Ceredigion | 62,900 |
Conwy | 88,100 |
Denbighshire | 74,100 |
Flintshire | 115,600 |
Gwynedd | 92,300 |
Isle of Anglesey | 53,600 |
Merthyr Tydfil | 42,300 |
Monmouthshire | 67,000 |
Neath Port Talbot | 105,700 |
Newport | 105,100 |
Pembrokeshire | 90,000 |
Powys | 101,600 |
Rhondda Cynon Taf | 178,200 |
Swansea | 177,400 |
Torfaen | 69,400 |
Vale of Glamorgan (The) | 92,500 |
Wrexham | 101,300” |
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
O dan Ran II o Atodlen 8 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(4) mae'n ofynnol i awdurdodau bilio yng Nghymru dalu symiau (a elwir yn gyfraniadau ardrethu annomestig) i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r rheolau ar gyfer cyfrifo'r symiau hynny wedi'u cynnwys yn Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992(5) (“Rheoliadau 1992”).
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1992 drwy roi lluosydd newydd ym mharagraff 2(12) o Atodlen 2 (Rhagdybiaethau ynglŷn â'r swm gros), ac Atodlen 4 newydd (Ffigurau Poblogaeth Oedolion).
1988 p.41. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 140(4) a 143(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 a pharagraffau 4 a 6 o Atodlen 8 iddi, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.
O.S. 1992/3238, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1993/1505, 1993/3077, 1994/547, 1994/1742, 1994/3125, 1995/3235, 1996/619, 1996/3018, 1997/3003, 1998/2962, 1999/3439 (Cy.47), 2000/3382 (Cy.220), 2001/3910 (Cy.322), 2002/3054 (Cy.289) a 2003/3211 (Cy.304).