xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 3288 (Cy.251)

GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

29 Tachwedd 2005

Yn dod i rym

6 Rhagfyr 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948(1) ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2).

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio Rhif 2) (Cymru) 2005.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Rhagfyr 2005.

(3Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Prif Reoliadau” (“the Principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau (Cyfalaf sydd i'w ddiystyru)

2.  Yn Atodlen 4 i'r Prif Reoliadau, ar ôl paragraff 27, ychwaneger y paragraff a ganlyn—

28.  Any payment made to the resident under regulations made under section 7 of the Age-Related Payments Act 2004(4) (power to provide future payments).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

29 Tachwedd 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau yn penderfynu'r modd y mae awdurdodau lleol yn asesu gallu person i dalu am y llety y mae awdurdodau lleol yn ei drefnu o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae rheoliad 2 yn diwygio'r Prif Reoliadau i ganiatáu i daliadau penodol ar sail oedran a wneir o dan adran 7 o Ddeddf Taliadau ar Sail Oed 2004 gael eu diystyru fel cyfalaf gan awdurdodau lleol.

(1)

1948 p. 29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a chan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1992/2977; ac O.S. 1996/602, O.S. 2002/814 (Cy.94) ac O.S. 2003/897 (Cy. 117) yw'r offerynnau diwygio perthnasol.