xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
CEFN GWLAD, CYMRU
HAWLIAU TRAMWY, CYMRU
Wedi'i wneud
5 Rhagfyr 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 103(3), (4) a (5) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”)(1), yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9 ac Arbediad) (Cymru) 2006.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
2. 6 Rhagfyr 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r canlynol ddod i rym—
(a)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith—
(i)i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf (darpariaethau ynghylch cynlluniau gwella hawliau tramwy a baratoir o dan adrannau 60 a 61 o'r Ddeddf) i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004(2), a
(ii)i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf (amrywiol swyddogaethau awdurdodau Parciau Cenedlaethol);
(b)adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i'r graddau y mae'n darparu'r pŵer i ddyroddi canllawiau;
(c)adran 102 o'r Ddeddf (diddymiadau) i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch—
(i)adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”)(3) yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym o ganlyniad i Orchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004(4), a
(ii)paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981(5) yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf.
3. I'r graddau nad yw eisioes mewn grym, daw adran 69 o'r Ddeddf (codi neu wella camfeydd, etc.) i rym ar 1 Ebrill 2007.
4. Er gwaethaf diddymu adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn, mae unrhyw weithred a gyflawnir o dan yr is-adran honno sydd mewn grym yn union cyn i'r erthygl honno ddod i rym yn parhau i fod yn effeithiol.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
5 Rhagfyr 2006
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau pellach yn Neddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) ac yn egluro effaith cychwyniadau blaenorol darpariaethau eraill.
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn —
(a)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/315 (Cy.33) (C.16)) yn honni ei fod yn dwyn i rym baragraffau 1, 6 a 9(5) o Atodlen 6 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r paragraffau hynny. Mae erthygl 2(a)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol;
(b)adran 57 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i baragraff 26 o Atodlen 6 i'r Ddeddf. Bydd hyn yn ymestyn swyddogaethau hawliau tramwy sy'n arferadwy gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol i gynnwys y swyddogaethau hawliau tramwy newydd y cyfeirir atynt yn y paragraff hwnnw (erthygl 2(a)(ii));
(c)y pwerau i ddyroddi canllawiau o dan adran 69(1) a (3) o'r Ddeddf cyn cychwyn gweddill yr adran honno er mwyn galluogi'r canllawiau i gael eu paratoi mewn pryd i gael eu dyroddi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) ar yr un adeg ag y dygir y darpariaethau cysylltiedig i rym (erthygl 2(b));
(ch)adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i'r cofnod ynghylch adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”) a geir yn Rhan I o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Roedd Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1489 (Cy.154) (C.59)) (“Gorchymyn Rhif 5”) yn honni ei fod yn dwyn i rym y cofnod sy'n ymwneud ag adran 193(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (“Deddf 1925”) a geir yn Rhan 1 o Atodlen 16 i'r Ddeddf heb wneud darpariaeth yn ddatganedig i ddwyn i rym adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau ei bod yn rhoi effaith i'r cofnod hwnnw. Mae erthygl 2(c)(i) o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym y darpariaethau priodol i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym o ganlyniad i'r Gorchymyn blaenorol; a
(d)adran 102 o'r Ddeddf i'r graddau y mae'n rhoi effaith i ddiddymu paragraff 9 o Atodlen 15 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 a geir yn Rhan II o Atodlen 16 i'r Ddeddf. Peidiodd y paragraff a ddiddymwyd â chael effaith ymarferol pan gychwynnwyd paragraff 11(8) o Atodlen 5 i'r Ddeddf gan erthygl 2(a)(iii) o O.S. 2005/1314 (Cy.96) (C.58). Mae cychwyn y diddymiad hwn yn tynnu'r ddarpariaeth oddi ar y llyfr statud (erthygl 2(c)(ii)).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn cychwyn adran 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad yw eisoes mewn grym ac i'r graddau na chychwynnir hi gan erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn. Mae adran 69 o'r Ddeddf yn diwygio adran 147 o Ddeddf Priffyrdd 1980, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i anghenion pobl sydd â phroblemau symudedd pan fydd yn awdurdodi codi camfeydd newydd, clwydi newydd neu waith newydd arall ar lwybrau troed neu lwybrau ceffylau. Bydd hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Roedd Gorchymyn Rhif 5 yn cynnwys darpariaeth arbed am unrhyw weithred a gafodd ei chyflawni cyn dwyn i rym ddiddymiad o adran 193(2) o Ddeddf 1925 gan y Gorchymyn hwnnw. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth o ran effaith yr arbediad, mae erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn ailadrodd yr arbediad hwnnw.
Daw erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2007. Daw gweddill y Gorchymyn hwn i rym ar 6 Rhagfyr 2006.
Adran(nau) neu Atodlen(ni) | Y dyddiad cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
2 a 12 i 14 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
18, 20 a 46(1)(a) | 21 Mehefin 2004 | 2004/148 (Cy.154) (C.59) |
46(1)(b) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
46(3) (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
47 i 50 | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
51 (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
51 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
51 (yn rhannol) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
57 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
57 (yn rhannol) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
57 (yn rhannol) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
60 a 61 | 1 Tachwedd 2002 | 2002/2615 (Cy.253) (C.82) |
63 | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
68 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
69(2) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
70(1) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(2) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
70(3) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
70(4), 72 a 82 i 93 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
96 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
99 | 30 Ionawr 2001 | 2001/203 (Cy.9) (C.10) |
102 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
102 (yn rhannol) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
102 (yn rhannol) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (Cy.42) |
Atodlen 2 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 4, paragraff 1 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 4, paragraffau 2 a 3 | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 4, paragraffau 4 i 6 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 5, paragraff 1 | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 5, paragraff 2 | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 5, paragraffau 5 a 6 | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 5, paragraff 8 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 5, paragraff 9 | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 5, paragraffau 10 a 11 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 5, paragraffau 12 i 17 | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 6, paragraff 1 | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraffau 2 a 3 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 4 | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 5 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 6 | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraff 8 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 9(1) i (3) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 9(5) | 1 Ebrill 2004 | 2004/315 (Cy.33) (C.16) |
Atodlen 6, paragraff 11 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 12, 13(1) i (4), (5)(a) i (d) a (7) i (9) a 14 (pob un yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 14(1) a (4)(a) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 15 (yn rhannol) | 21 Tachwedd 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 17 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 18(a) (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraff 18(a) a (b) (y ddau yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 6, paragraff 19 (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 20(a) i (c) | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraffau 20(d) ac (e), 21, 23(1), (2)(a) a (b), (3)(a) a (b), (4)(a) a (b), (5), (7) ac (8) (pob un yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 23(8) (y gweddill) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 6, pargraff 23(9)(a) a (b) (yn rhannol) | 15 Gorffennaf 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlen 6, paragraff 24 | 31 Mai 2005 | 2005/1314 (Cy.96) (C.58) |
Atodlenni 13 i 15 | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan I (yn rhannol) | 21 Mehefin 2004 | 2004/1489 (Cy.154) (C.59) |
Atodlen 16, Rhan I (y gweddill) | 28 Mai 2005 | 2005/423 (Cy.41) (C.19) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Atodlen 16, Rhan II (yn rhannol) | 11 Mai 2006 | 2006/1279 (Cy.124) (C.42) |
Atodlen 16, Rhannau V a VI | 1 Mai 2001 | 2001/1410 (Cy.96) (C.50) |
Gwnaed y Gorchmynion Cychwyn canlynol o dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 o ran Lloegr—
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 1) 2001 (O.S. 2001/114) (C.4)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002 (O.S. 2002/2833) (C.89)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 3) 2003 (O.S. 2003/272) (C.16)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 4) 2004 (O.S. 2004/292) (C.14)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 5) 2004 (O.S. 2004/2173) (C.93)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 6) 2004 (O.S. 2004/3088) (C.128)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 7) 2005 (O.S. 2005/827) (C.34)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 8) 2005 (O.S. 2005/1901) (C.81)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 9) 2005 (O.S. 2005/2459) (C.104)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 10) 2005 (O.S. 2005/2752) (C.112)
Gorchymyn Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Cychwyn Rhif 11 ac Arbedion) 2006 (O.S. 2006/1172) (C.39)