xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2006 Rhif 3366 (Cy.308)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006

Wedi'u gwneud

13 Rhagfyr 2006

Yn dod i rym

15 Rhagfyr 2006

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 79 a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2006.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru(2).

Diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006

2.  Yn Atodlen 3 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006(3) (Ffioedd Band 3 — Darparu Cyfarpar) hepgorer paragraff (i).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Rhagfyr 2006

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro gwall yn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Deintyddol) (Cymru) 2006 (O.S. 2006/491 (Cy.60)) (“Rheoliadau 2006”).

Mae rheoliad 2 yn dileu'r cyfeiriad at “crowns in other materials” yn y rhestr o gyfarpar y ceir codi a chasglu ffi Band 3 ar ei gyfer yn Atodlen 3 i Reoliadau 2006.

Mae Arfarniad Rheoliadol llawn o'r effaith wedi'i baratoi o ran Rheoliadau 2006. Gellir cael copi o'r Arfarniad Rheoliadol gan y Gyfarwyddiaeth Polisi Iechyd Cymunedol, Gofal Sylfaenol a Gwasanaethau Iechyd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.

(2)

Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 79 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol gan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf Iechyd 1999.