xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2007 Rhif 3285 (Cy.289) (C.134)

POBL ANABL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007

Gwnaed

15 Tachwedd 2007

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 20(4)(b) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005(1) ac sydd bellach wedi'u breinio ynddynt(2) yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2007 ac mae'n gymwys o ran Cymru.

(2Yn y Gorchymyn hwn —

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005;

ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995;(3).

Cychwyn darpariaethau bathodyn glas o ran Cymru

2.  30 Mawrth 2008 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau canlynol y Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Chymru, ddod i rym—

(a)adran 9 (cydnabod bathodynau pobl anabl a ddyroddwyd y tu allan i Brydain Fawr);

(b)Rhan 2 o Atodlen 1 ac adran 19(1) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r Rhan honno o'r Atodlen honno;

(c)y cofnodion yn Atodlen 2 o ran Deddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(4) a Deddf Rheoli Traffig 2004(5), ac adran 19(2) i'r graddau y maent yn ymwneud â'r cofnodion hynny.

Ieuan Wyn Jones

Y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru.

15 Tachwedd 2007

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 2005 (“y Ddeddf”) yn diwygio'n helaeth Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (“Deddf 1995”), a gwneud darpariaethau penodol eraill.

Mae erthygl 2 yn dwyn i rym “ddarpariaethau bathodyn glas” y Ddeddf, y mae ei rhychwant yn gyfyngedig i Gymru a Lloegr (adran 20(8)), o ran Cymru yn unig. Dyma yw darpariaethau'r bathodyn glas: adran 9, Rhan 2 o Atodlen 1, cofnodion penodol yn Atodlen 2 ac adran 19 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r darpariaethau hynny yn yr Atodlenni hynny (adran 20(10)).

(2)

 Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

(3)

1995 p.50. Cafodd Deddf 1995 ei diwygio ar sawl achlysur. Gwnaed diwygiadau arwyddocaol gan Ddeddf y Comisiwn Hawliau Pobl ag Anabledd 1999 (p.17), gan Ddeddf Anghenion Addysgol Arbennig ac Anabledd 2001 (p.10), gan Reoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (Diwygio) 2003 (O.S. 2003/1673), a chan Reoliadau Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 (Pensiynau) 2003 (O.S. 2003/2770).